Isod fe welwch ddolenni i dudalennau am wahanol beryglon ac argyfyngau – gallai’r rhain fod yn naturiol, yn rhai a achosir gan bobl, neu’r ddau. Defnyddiwch y wybodaeth a ddarperir i feddwl am yr effaith y gallai’r digwyddiadau hyn ei chael ar eich bywyd bob dydd ac unrhyw beth y gallech ei wneud i baratoi ar eu cyfer.
Bydd rhai ardaloedd yn fwy tebygol o brofi mathau penodol o argyfyngau nag eraill.
Mae rhai o’r tudalennau isod yn cynnwys gwybodaeth am y bobl sydd fwyaf ‘mewn perygl’. Nid yw’r rhestrau hyn yn gynhwysfawr, ond maent yn tynnu sylw at bwy allai fod mewn mwy o berygl os bydd y digwyddiad yn digwydd, yn fwy tebygol o ddioddef canlyniadau iechyd gwael, neu pwy allai fod angen cymorth neu help ychwanegol.
Ffoniwch 999 os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol
Beth i’w wneud os ydych chi’n cael eich dal mewn argyfwng
- Mewn argyfwng, deialwch 999 bob amser a dilynwch gyngor y gwasanaethau brys. Mae’n bwysig dysgu plant pryd a sut i ddeialu 999.
- Yn dibynnu ar natur y digwyddiad, efallai y gofynnir i’r rhai yr effeithir arnynt ‘Fynd i mewn, Aros i mewn a Thiwnio i mewn’ i orsafoedd radio lleol neu genedlaethol neu wirio ffynonellau gwybodaeth swyddogol ar-lein. Oni bai bod risg amlwg i adeilad, mynd i mewn a cheisio rhagor o wybodaeth yn aml yw’r peth mwyaf diogel i’w wneud. Dylai pobl bob amser gael eu harwain gan yr hyn y gallant ei weld yn digwydd o’u cwmpas – er enghraifft, nid yw byth yn ddiogel dychwelyd i adeilad sydd ar dân.
- Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd angen i chi adael adeilad er eich diogelwch eich hun. Mae’n bwysig peidio ag oedi wrth adael eiddo, adeiladau neu leoliad cyffredinol os gofynnir i chi wneud hynny gan yr awdurdodau. Gall oedi neu wrthod gadael roi eich bywyd mewn perygl, yn ogystal â rhoi ymatebwyr brys mewn perygl os bydd yn rhaid iddynt ddychwelyd i eiddo yn ddiweddarach i roi’r cais gwacáu eto, neu i achub rhywun sydd yn sownd.
- Os ydych chi’n cael eich dal mewn argyfwng, ac mae’n ddiogel gwneud hynny, gallech chwarae rôl hanfodol trwy ddarparu cymorth cyntaf, cysur a chefnogaeth wrth aros i’r gwasanaethau brys gyrraedd.
- Os nad ydych eisoes yn y lleoliad, peidiwch â cheisio mynd yn agosach at leoliad lle mae argyfwng yn digwydd. Gall hyn eich rhoi mewn perygl a gallech amharu ar y gwasanaethau brys. Os hoffech helpu, chwiliwch am alwadau am gymorth gan grwpiau cymunedol lleol a’ch cynghorau lleol. Mewn rhai argyfyngau, gall galwadau am gymorth ddod gan lywodraeth genedlaethol neu sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol.
- Os yw’n ddiogel gwneud hynny, ystyriwch holi cymdogion neu unrhyw un rydych chi’n meddwl y gallai fod angen help neu gymorth ychwanegol arnynt, neu drosglwyddo gwybodaeth bwysig am yr argyfwng.
Ffynonellau gwybodaeth yn ystod argyfwng
Mewn argyfwng, rhowch sylw i ffynonellau gwybodaeth swyddogol fel gwefannau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol awdurdodau lleol, asiantaethau’r llywodraeth neu wasanaethau brys, neu negeseuon i’ch ffôn symudol gan Wasanaeth Rhybuddion Brys Llywodraeth y DU.
Dylech wirio gorsafoedd radio lleol a darllediadau teledu lleol, y rhyngrwyd a ffynonellau newyddion am gyngor penodol gan bartneriaid argyfwng lleol.
Gall y rhyngrwyd fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol, fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn llawn ffeithiau a safbwyntiau. Gall rhywfaint o wybodaeth rydych chi’n dod o hyd ar-lein fod yn gamarweiniol ac yn anghywir, gan ei gwneud hi’n niweidiol i’w rhannu â ffrindiau a theulu.