Skip to main content

Amlygiad i sylweddau peryglus ac ymbelydredd

Mae digwyddiadau difrifol sy’n ymwneud â chemegau peryglus neu ymbelydredd yn brin, ond os byddwch yn gysylltiedig ag un, mae’n bwysig gwybod beth i’w wneud i amddiffyn eich hun ac eraill. Gall digwyddiadau gynnwys sylweddau peryglus mewn gwahanol ffurfiau, gan gynnwys solidau, hylifau a nwyon.


Camau i’w cymryd os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich amlygu i gemegyn peryglus

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich amlygu i sylwedd peryglus, dylech gymryd y camau canlynol cyn gynted â phosibl i amddiffyn eich hun ac eraill.

Dilynwch y cyngor tynnu, tynnu, tynnu:

  • Tynnwch eich hun o’r ardal agos i osgoi amlygiad pellach i’r sylwedd. Mae awyr iach yn bwysig. Os yw’r croen yn cosi neu’n boenus, dewch o hyd i ffynhonnell ddŵr. Riportiwch i’r gwasanaethau brys.
  • Tynnwch  eich dillad allanol os yw’r sylwedd wedi effeithio arnynt. Ceisiwch osgoi tynnu dillad dros eich pen os yn bosibl. Peidiwch ag ysmygu, bwyta nac yfed. Peidiwch â thynnu dillad sy’n sownd i’r croen.
  • Tynnwch y sylwedd o’ch croen gan ddefnyddio deunydd amsugnol sych naill ai i’w socian neu ei frwsio i ffwrdd. Rinsiwch yn barhaus gyda dŵr os yw’r croen yn cosi neu’n boenus.

Os ydych chi allan ac yn cael eich rhybuddio am argyfwng cemegol gerllaw, yna dylech ymochel – ewch i mewn, aros i mewn, tiwnio mewn.  Bydd y gwasanaethau brys yn eich diweddaru ynghylch pa ardaloedd ddylai ymochel ac am ba gyfnod. Gall y pellter o’r gollyngiad a’r cyfeiriad yr effeithir arno newid dros amser.

Darperir canllawiau manylach ar beth i’w wneud mewn argyfwng cemegol gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â gwacáu, anifeiliaid anwes, bwyd a dŵr, a gwybodaeth am gemegau peryglus penodol.


Camau i’w cymryd os ydych yn rhan o argyfwng ymbelydredd

Dilynwch y  cyngor Ewch i mewn, Aros i mewn, Tiwnio i mewn gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU:

  • Ewch i mewn: Y peth pwysicaf i’w wneud os dywedir wrthych eich bod yn agos at argyfwng ymbelydredd yw mynd dan do cyn gynted ag y gallwch ac aros yno. Caewch y drysau a’r ffenestri ac arhoswch mor bell i ffwrdd o waliau allanol â phosibl.
  • Aros i mewn: Mae aros dan do yn lleihau eich amlygiad i unrhyw ymbelydredd y tu allan. Byddwch yn cael cyngor ar beth i’w wneud nesaf. Diffoddwch yr holl ffaniau ac aerdymheru a chau’r holl ddrysau, ffenestri a fentiau allanol lle bo hynny’n bosibl. Byddwch yn cael cyngor ar beth i’w wneud nesaf. Efallai y bydd angen i chi aros dan do am un i ddau ddiwrnod.
  • Tiwnio i mewn: Monitrwch y newyddion a dilyn cyngor swyddogol ar GOV.UK ar gyfer beth i’w wneud nesaf. Bydd unrhyw newidiadau i’r cyngor yn cael eu cyfathrebu i chi drwy ffynonellau swyddogol – gall hyn fod trwy’r radio, y teledu, y rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol neu’r heddlu.

Bydd yr hyn y mae angen i chi ei wneud i amddiffyn eich hun yn dibynnu ar ble rydych chi mewn perthynas â ble mae’r argyfwng ymbelydredd, felly mae’n hanfodol dilyn y cyngor a ddarperir lle rydych chi. Ni ellir gweld, clywed, arogl, blasu na theimlo ymbelydredd, felly mae’n bwysig eich bod yn dilyn y cyngor a roddwyd i chi, hyd yn oed os na allwch ddweud bod unrhyw beth wedi digwydd.