
Dyma rai camau syml ac effeithiol y gallwch eu cymryd i fod yn barod am argyfyngau a’r aflonyddwch maen nhw’n ei achosi. Mae llawer o’r gweithgareddau hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol ar draws amryw o wahanol fathau o argyfwng. Gallwch hefyd lawrlwytho rhestr wirio Byddwch yn Barod yma.
Mae yna lawer o awgrymiadau yma na fydd yn costio dim, a dim ond yn cymryd ychydig funudau i’w wneud.
Am wahanol resymau, fydd pawb ddim yn gallu cymryd yr holl gamau gweithredu yn y canllawiau, a dim ond rhai o’r camau sy’n cael eu hargymell fydd rhai pobl yn eu dilyn. Mae’r manylion isod yn rhoi cyngor sylfaenol ar sut mae paratoi, er mwyn i chi allu cymryd y camau sy’n gweithio i chi.
Mae grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer argyfyngau, gan weithio’n aml gydag ymatebwyr brys i gael cymorth i’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Ffoniwch 999 os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol
Rhestr Wirio Byddwch yn Barod
Mae bod yn barod am 3 diwrnod yn eich helpu i ymdopi tra bod cefnogaeth yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn angen.
Mae gwneud hyn yn haws nag y byddech chi’n meddwl. Gallech gael rhai o’r eitemau gartref yn barod.
Nid oes angen i chi wneud y cyfan ar unwaith. Adeiladwch eich parodrwydd yn raddol dros amser trwy ei wneud gam wrth gam, a chael eitem neu ddwy ychwanegol pan allwch.
Sut i ddechrau arni:
- Gweld beth sydd gennych eisoes: Gwiriwch eich cypyrddau yn gyntaf i weld pa hanfodion rydych chi eisoes yn eu cadw gartref.
- Cynlluniwch ar gyfer eich cartref: Nodwch beth sydd ei angen arnoch o hyd, gan gofio eitemau y mae eich teulu yn dibynnu arnynt, fel cyflenwadau meddygol, fformiwla babanod neu fwyd anifeiliaid anwes.
- Adeiladwch hyn yn raddol: Cael eitemau coll pan allwch yn ystod eich teithiau siopa rheolaidd i helpu i rannu’r gost.
- Gwiriwch hyn yn rheolaidd: Gosodwch nodyn atgoffa bob chwe mis i wirio dyddiadau dod i ben a chyfnewid eitemau sydd angen eu hamnewid, neu ddiweddaru eich pecyn os yw anghenion eich cartref wedi newid.
- Cysylltwch â’ch cymuned: Siaradwch â’ch cymdogion am ba gymorth ychwanegol y gallech ei rannu yn ystod toriad mewn cyflenwad, a chyfnewid manylion cyswllt.
Defnyddiwch y rhestr wirio isod i weld beth sydd gennych ac ystyried unrhyw beth arall y gallai fod ei angen arnoch.
| Categori | Eitemau i’w ticio |
|---|---|
| Dŵr | ☐ Dŵr potel am 3 diwrnod 3 litr y person y dydd i’w yfed. Byddai angen mwy ar gyfer tasgau eraill fel coginio a golchi. |
| Bwyd | ☐ Bwyd nad yw’n ddarfodus am 3 diwrnod Bwyd gydag oes silff hir nad oes angen ei gadw mewn oergell na’i goginio e.e. cig tun, pysgod neu lysiau, ffrwythau sych a chnau. Mae’n well prynu bwyd y byddech chi’n ei fwyta fel arfer. |
| Hylendid | ☐ Diheintydd dwylo, cadachau gwlyb (‘wet wipes’), cynhyrchion hylendid ac ystafell ymolchi |
| Golau a chynhesrwydd | ☐ Tortsh (a batris sbâr) Mae tortshys yn fwy diogel na chanhwyllau. ☐ Blancedi, sachau cysgu a dillad cynnes Gall cartrefi fynd yn oer yn gyflym iawn pan fydd y gwres yn diffodd. |
| Cyfathrebu a gwybodaeth | ☐ Radio FM (batri / weindio) Am ddiweddariadau yn ystod toriadau, ysgrifennwch amleddau unrhyw orsafoedd radio cenedlaethol neu leol rydych chi’n eu defnyddio ar gyfer newyddion. ☐ Banc pŵer wedi’i wefru I wefru ffonau neu ddyfeisiau meddygol cydnaws |
| Arian a dogfennau | ☐ Arian parod (cymysgedd o ddarnau arian ac arian papur) a chardiau Rhag ofn na fydd taliadau electronig neu beiriannau twll yn y wal yn gweithio. Mae swm yr arian parod y dylech ei gadw yn dibynnu ar anghenion penodol eich teulu ar gyfer hanfodion. ☐ Copïau o IDs / dogfennau Argraffwch gopïau o ddogfennau pwysig fel pasbortau, tystysgrifau geni, manylion polisi yswiriant a chyfarwyddiadau ar gyfer unrhyw offer meddygol rydych chi’n dibynnu arnynt. ☐ Rhifau ffôn a gwybodaeth bwysig Ysgrifennwch fanylion cyswllt y bobl y byddai angen i chi gysylltu â nhw mewn argyfwng (gan gynnwys unrhyw un a allai fod angen cadw llygaid arnynt) a rhestr o unrhyw feddyginiaeth a dosau rheolaidd. |
| Meddygol ac iechyd | ☐ Pecyn cymorth cyntaf / eitemau cymorth cyntaf Gan gynnwys eitemau fel plasteri gwrth-ddŵr, rhwymau, thermomedr, antiseptig, toddiant golchi llygaid, dresin a menig di-haint, tâp meddygol ar gyfer dresin a gefel fach. ☐ Meddyginiaeth hanfodol a chyflenwadau meddygol Gadewch ddigon o amser i ofyn am bresgripsiynau rheolaidd fel bod gennych lai o siawns o fod yn brin mewn argyfwng. Mae’n bwysig gofyn am bresgripsiynau hyd at 5 diwrnod gwaith cyn byddwch chi angen eich meddyginiaeth. |
| Cynhyrchion babanod | ☐ Fformiwla babanod Fformiwla parod neu ‘barod i’w fwydo’ yw’r gorau, oherwydd efallai na fyddwch chi’n gallu berwi dŵr i wneud fformiwla powdr yn ddiogel. ☐ Cewynnau a chadachau |
| Cynhyrchion anifeiliaid anwes | ☐ Bwyd anifeiliaid anwes a dŵr potel |
Os oes gennych unrhyw eitemau ychwanegol, gallech ystyried rhoi’r rhain i eraill nad oes ganddynt y modd i baratoi eu cartref eu hunain. Efallai y byddwch yn gallu helpu rhywun trwy lungopïo neu argraffu dogfennau pwysig ar eu cyfer.

Cael gwybodaeth
- Cofrestrwch am rybuddion a chael gwybod am wahanol fathau o beryglon ac argyfyngau.
- Darganfyddwch fwy am risgiau yn eich ardal leol gan gynnwys gwirio eich perygl llifogydd ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Dysgwch rai sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol. Edrychwch ar-lein i ddod o hyd i weithdai am ddim neu gofynnwch a fydd eich cyflogwr yn talu am gwrs.
- Gwiriwch a oes gan y man lle rydych chi’n gweithio neu’n gwirfoddoli gynllun ar gyfer yr hyn y dylech ei wneud os na allwch gysylltu â nhw yn ystod argyfwng, er enghraifft yn ystod toriad pŵer.
Darganfyddwch a ydych chi’n gymwys i gofrestru ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (PSR)
Ewch i thepsr.co.uk i ddarganfod a ydych chi’n gymwys ac i gofrestru ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth – mae hyn yn rhoi gwybod i’ch darparwyr trydan, nwy a dŵr bod angen cymorth ychwanegol arnoch, yn ogystal â phan fydd eich cyflenwad yn cael ei dorri. Mae llawer o gartrefi’n gymwys i gael y gwasanaeth hwn, gan gynnwys os oes gennych chi blant o dan 5 oed.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i gwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr a’r Alban – os ydych yng Ngogledd Iwerddon gelwir y rhain yn Gofrestrau Gofal Cwsmeriaid.

Gwnewch gynllun
- Defnyddiwch ein cynllun argyfwng y cartref y gellir ei lawrlwytho a’i argraffu. Gallech gadw hyn gyda dogfennau pwysig eraill fel pasbortau, tystysgrifau geni a pholisïau yswiriant fel ei bod yn haws eu cael gafael arnynt yn gyflym os oes angen.
- Gweithiwch allan y llwybr dianc gorau o’ch cartref os oes tân neu beth ddylech chi ei wneud os bydd eich cartref yn dioddef llifogydd – os ydych chi’n byw gydag eraill, gan gynnwys plant, trafodwch hyn gyda nhw.
- Penderfynwch ar bwynt cyfarfod gydag aelodau o’r teulu rhag ofn na allwch ddychwelyd adref neu gysylltu â’ch gilydd am gyfnod o amser. Dewiswch leoedd sy’n hawdd dod o hyd iddynt ac ar agor i’r cyhoedd yn eich cymuned, neu efallai y byddwch chi’n cytuno i gwrdd yng nghartref aelod o’r teulu os yw’n ddiogel gwneud hynny.
- Cytunwch ar gynllun wrth gefn gydag unrhyw un a allai fod angen cymorth ychwanegol, yn enwedig os ydynt yn byw ar eu pennau eu hunain. Gallech gytuno, os bydd toriad yn digwydd ac na allwch ffonio, y byddwch chi neu berson dibynadwy arall y maent yn ei adnabod yn ymweld â nhw yn bersonol. Atgoffwch nhw y dylent ddilyn cyngor y gwasanaethau brys os gofynnir iddynt wacáu er eu diogelwch.
- Gallwch hefyd siarad â chymdogion unrhyw un y byddech chi’n poeni amdano yn ystod toriad a chytuno y byddant yn cadw llygaid arnynt.
- Ysgrifennwch rifau ffôn pwysig ar bapur a’u storio yn rhywle hawdd dod o hyd iddynt yn ystod toriad pŵer. Cynhwyswch y rhif ffôn i roi gwybod am doriad pŵer (105 yng Nghymru, Lloegr a’r Alban a 03457 643643 yng Ngogledd Iwerddon), rhifau ffôn unrhyw un yr hoffech gysylltu â nhw mewn argyfwng, rhestr o’ch meddyginiaeth reolaidd, amleddau gorsafoedd radio rydych chi’n eu defnyddio ar gyfer diweddariadau newyddion, a manylion polisi yswiriant.
- Ychwanegwch gysylltiadau brys neu wybodaeth feddygol i’ch ffôn symudol (a elwir yn aml yn ‘ICE’ neu ‘Medical ID’ ar ffonau clyfar) fel y gall y gwasanaethau brys gael mynediad i’r wybodaeth hon heb orfod datgloi’ch ffôn gyda chod mynediad – ystyriwch sensitifrwydd y wybodaeth rydych chi’n ei chynnwys (gallai unrhyw un ei weld sydd â mynediad i’ch ffôn symudol) a rhowch wybod i’r person rydych chi wedi’i ddewis fel eich cyswllt brys.
- Gwiriwch fod gan ysgol eich plentyn (neu ddarparwr gofal plant arall) y rhifau cyswllt cywir ar eich cyfer rhag ofn y bydd angen iddynt gysylltu â chi yn ystod argyfwng. Dylai ysgol eich plentyn fod â chynlluniau a gweithdrefnau ar waith i ddelio â gwahanol fathau o argyfyngau, er enghraifft ar gyfer tywydd garw, colli cyfleustodau a thân.

Paratoi eich cartref
- Cwblhewch wiriad diogelwch tân yn y cartref ar-lein i’ch helpu i gadw chi a’ch cartref yn ddiogel rhag tân.
- Gosodwch nodyn atgoffa yn eich ffôn neu gwnewch nodyn ar eich calendr i wirio’ch larymau mwg o leiaf unwaith y mis – mae gwefan yr ymgyrch Fire Kills yn cynnwys cyngor ar ddiogelwch tân yn y cartref.
- Dysgwch sut i ddiffodd eich nwy, trydan a dŵr – bydd angen i chi ddiffodd y rhain os bydd yn rhaid i chi adael eich cartref oherwydd llifogydd neu am resymau eraill fel os oes gollyngiad.
- Gwiriwch fod yswiriant cywir ar waith ar gyfer eich cartref (neu fusnes), er enghraifft, yswiriant llifogydd.
- Os ydych chi’n byw mewn ardal perygl llifogydd, darganfyddwch fwy o gamau y gallwch eu cymryd i baratoi eich eiddo.
- Gallech ystyried cadw rhai eitemau hanfodol y gallai fod angen i chi fynd â nhw gyda chi os gofynnir i chi adael eich cartref yn gyflym, mewn bag sbâr – efallai y byddwch chi’n clywed rhai pobl yn galw hyn yn ‘bag bachu’.
- Edrychwch ar y tudalennau tywydd poeth, tywydd oer a stormydd i gael rhagor o gyngor ar sut y gallwch chi baratoi eich eiddo.
- Paciwch ychydig o eitemau hanfodol yn eich cist car i wneud yn siŵr eich bod chi’n barod rhag ofn y byddwch yn mynd yn sownd mewn tywydd gaeafol – gall hyn gynnwys tortsh, gwefrydd ffôn yn y car, dillad a blancedi cynnes, dillad gwelededd uchel, ceblau gwefru (‘jump leads’), bwyd a diod, a rhaw ar gyfer eira. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol cadw pecyn cymorth cyntaf yn eich car.

Siarad ag eraill
- Siaradwch am y cyngor ar y wefan hon a throsglwyddwch wybodaeth am y cymorth sydd ar gael – helpwch eich ffrindiau, teulu, cymdogion a chydweithwyr i ddilyn y camau syml ar y wefan hon, os gallant.
- Cyfnewidiwch fanylion cyswllt gyda chymdogion ac ystyried creu grŵp negeseuon gwib neu rwydwaith cymdeithasol ar-lein caeedig arall ar gyfer eich stryd neu adeilad – gall y rhain fod yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth a chefnogaeth yn ystod argyfwng.
- Gofynnwch i’ch cymdogion a allai fod ganddynt anghenion cymorth ychwanegol yn ystod argyfwng – efallai bod ganddynt anghenion meddygol ychwanegol, maen nhw’n yn newydd i’r ardal, nid ydynt yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd neu dechnoleg yn dda, neu nid ydynt yn siarad neu ddarllen Saesneg yn dda. Siaradwch â nhw am yr help sydd ar gael a sut y gallwch eu cefnogi.
- Gwnewch gynllun i gadw llygaid ar gymdogion os bydd argyfwng yn digwydd, yn enwedig os yw’r pŵer yn diffodd.
- Siaradwch â phlant am beth i’w wneud mewn argyfwng, gan gynnwys sut a phryd i ffonio’r gwasanaethau brys – mae gwefan Staywise yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau am argyfyngau sydd wedi’u hanelu at blant. Gallwch hefyd eu helpu i ddysgu eu cyfeiriad cartref ac os yn bosibl, rhif ffôn symudol rhiant/gwarcheidwad – ymarferwch y rhain yn rheolaidd.