Llifogydd

Gall llifogydd gael effaith ddinistriol a hirdymor ar fywydau pobl. Mae tua 6.3 miliwn o eiddo, cartrefi a busnesau yn Lloegr mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o un neu fwy o ffynonellau: afonydd, y môr, dŵr wyneb (glaw) a dŵr daear.
Nid yn unig y gall llifogydd achosi difrod i’ch cartref a’ch eiddo, gan gostio miloedd o bunnoedd i chi, ond gall amharu ar eich bywyd ac achosi trallod emosiynol. Gall paratoi cyn llifogydd, a gwybod beth i’w wneud pan fydd yn digwydd, leihau’r effeithiau sylweddol hyn.
Pwy sydd fwyaf mewn perygl?
Y bobl sydd fwyaf mewn perygl o lifogydd yw’r rhai sy’n byw mewn ardal sydd â pherygl llifogydd. Gallwch wirio eich perygl llifogydd hirdymor ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Camau y gallwch eu cymryd i baratoi os ydych chi’n byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd
- Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd (ar gyfer llifogydd o afonydd, y môr a dŵr daear) dros y ffôn, neges destun neu e-bost. Os oes gennych anabledd neu os oes angen help ychwanegol arnoch, gallwch gysylltu â Floodline a gofyn iddynt anfon rhybuddion llifogydd at ffrind neu berthynas ar eich rhan (ffôn: 0345 988 1188, ffôn testun: 0345 602 6340).
- Gwnewch gynllun llifogydd personol i chi a’r rhai o’ch cwmpas.
- Ystyriwch bacio ‘bag bachu’ o hanfodion ymlaen llaw. Gallai hyn gynnwys unrhyw feddyginiaeth sydd ei angen arnoch, pecyn cymorth cyntaf a dogfennau pwysig, yn ogystal ag eitemau fel tortsh, dŵr potel, dillad gwrth-ddŵr cynnes, ac eitemau gofal babanod. Storiwch y bag yn rhywle y gallwch chi ei gyrraedd yn hawdd.
- Symudwch eitemau sentimental neu werthfawr i fyny’r grisiau neu eu cadw mewn lle uchel fel silff uchaf neu drôr cabinet. Storiwch ddogfennau pwysig (e.e. tystysgrifau geni) mewn bagiau plastig gwrth-ddŵr y gellir eu hail-selio i’w hamddiffyn rhag difrod dŵr.
- Os ydych chi’n berchen ar eiddo ar lan afon neu ar lan camlas, efallai y bydd pethau ychwanegol y mae angen i chi eu gwneud. Darllenwch y canllawiau ar y rheolau a’r cyfrifoldebau sy’n berthnasol pan fyddwch chi’n berchen ar gwrs dŵr ar eich eiddo neu gerllaw.
- Cyn i lifogydd ddigwydd, gallwch wneud newidiadau i’ch eiddo i leihau’r difrod y gall llifogydd ei achosi. Mae’r rhain yn costio, ond os ydych chi’n cynllunio gwaith ar eich eiddo beth bynnag gall fod yn gyfle da i wneud rhai newidiadau. Darllenwch fwy am sut i baratoi eich eiddo ar gyfer llifogydd. Efallai y bydd angen caniatâd arnoch i wneud gwaith a fydd yn effeithio ar lif afon neu’n dargyfeirio dŵr llifogydd.
- Gwybod sut i ddiffodd eich cyflenwad nwy, trydan a dŵr. Mae’r rhain mewn gwahanol leoedd mewn gwahanol eiddo ond fel arfer fe welwch eich tap stopio dŵr y tu mewn i’ch cartref lle mae’ch cyflenwad dŵr yn dod i mewn (neu y tu allan ger ffin eich eiddo o dan orchudd), eich falf cau nwy wrth ymyl eich mesurydd nwy, a diffoddwr eich prif gyflenwad trydan ar eich bwrdd ffiwsys gyda switsh mawr ar gyfer diffodd a throi ymlaen.
- Trefnwch yswiriant: gallwch ddod o hyd i arweiniad gan Asiantaeth yr Amgylchedd drwy fynd i Baratoi ar gyfer llifogydd.
Mae canllawiau gwahanol ar baratoi ar gyfer llifogydd yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Camau y gallwch eu cymryd os ydych ar fin cael llifogydd neu yn ystod llifogydd
Gallwch wirio am lifogydd yn y 5 diwrnod nesaf.
Rhowch wybod am lifogydd afonol neu arfordirol difrifol yn Lloegr drwy gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd ar y llinell ffôn gwasanaeth 24 awr: 0800 80 70 60. Gallwch hefyd ddefnyddio Typetalk ar 0345 602 6340. Ar gyfer rhai mathau o lifogydd bydd angen i chi riportio’r rhain i’ch cyngor lleol. Darganfyddwch ragor o wybodaeth am sut i riportio llifogydd.
Os oes gan eich ardal rybudd llifogydd (pan ddisgwylir llifogydd) neu rybudd llifogydd difrifol (pan fo perygl i fywyd):
- Diffoddwch eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr, os yw’n ddiogel gwneud hynny – peidiwch â chyffwrdd â switsh trydanol os ydych chi’n sefyll mewn dŵr.
- Symudwch eich teulu, cerbydau, anifeiliaid anwes ac eitemau pwysig i fan diogel, er enghraifft i fyny’r grisiau neu i dir uwch.
- Os oes gennych rai, defnyddiwch gynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd, er enghraifft rhwystrau llifogydd neu orchuddion brics aer. Mae Flood Mary yn cynnig cyngor defnyddiol ar baratoi eich eiddo ar gyfer llifogydd.
- Dilynwch gyngor eich cyngor lleol neu’r gwasanaethau brys bob amser os gofynnir i chi wacáu. Gall peidio â gwacáu neu oedi wrth wacáu roi eich bywyd mewn perygl. Gall hefyd beryglu bywydau ymatebwyr brys os oes angen eich achub yn ddiweddarach.
- Os oes angen i chi deithio, gwiriwch am lifogydd a chael gwybodaeth am draffig ffyrdd. Cadw at hysbysiadau ‘Peidiwch â Theithio’ bob amser.
- Peidiwch byth â cherdded trwy ddŵr llifogydd. Gall dŵr llifogydd gynnwys carthffosiaeth a sbwriel cudd, malurion, ffyrdd a phalmentydd anwastad neu orchuddion draeniau a thyllau archwilio wedi torri.
- Os ydych chi’n dod ar draws ffordd dan ddŵr wrth yrru, trowch yn ôl a dod o hyd i lwybr arall. Prif achos marwolaeth yn ystod llifogydd yw gyrru trwy ddŵr llifogydd.
Os yw’ch cartref wedi’i ddifrodi gan lifogydd ac nad ydych yn gallu byw yno, cysylltwch â’ch cyngor lleol am help i gael llety brys.
Darganfyddwch beth i’w wneud yn ystod llifogydd yn yr Alban, beth i’w wneud yn ystod llifogydd yng Nghymru a beth i’w wneud yn ystod llifogydd yng Ngogledd Iwerddon.
Camau y gallwch eu cymryd ar ôl llifogydd
- Gall lefelau dŵr godi a gostwng am sawl wythnos yn dibynnu ar ddraeniad ac unrhyw law pellach. Peidiwch â mynd i mewn i ddŵr llifogydd oni bai bod hynny yn gwbl angenrheidiol. Gall dŵr llifogydd fod yn llawer dyfnach nag y mae’n ymddangos a gall guddio peryglon, fel tyllau archwilio heb orchuddion a gwrthrychau miniog. Os oes rhaid i chi fynd i mewn i ddŵr llifogydd, symudwch yn araf ac yn ofalus, gan osgoi dŵr sy’n symud yn gyflym.
- Golchwch eich dwylo’n rheolaidd, dyma’r ffordd bwysicaf o gael gwared ar fygiau niweidiol ac unrhyw gemegau a geir mewn dŵr llifogydd. Golchwch gyda dŵr cynnes, sebon, yna rinsiwch a sychwch yn drylwyr ar ôl dod i gysylltiad â dŵr llifogydd, carthffosiaeth neu unrhyw eitem sydd wedi bod yn y dŵr.
- Os ydych chi wedi’ch yswirio, yna gwiriwch y polisi, gall Yswirwyr dalu costau am lety dros dro a glanhau. Tynnwch luniau neu fideo o’r holl ddifrod. Marciwch lefelau’r dŵr ar y wal cyn iddynt gilio. Gwnewch yn siŵr bod y cwmni yswiriant wedi rhoi cymeradwyaeth cyn bwrw ymlaen ag unrhyw waith atgyweirio. Peidiwch â gwaredu unrhyw eitem nes y dywedir wrthych am wneud hynny.
- Os nad oes gennych yswiriant, cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am grantiau caledi neu elusennau a allai eich helpu.
- Darganfyddwch fwy am Flood RE, cynllun sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl sydd wedi profi llifogydd i ddod o hyd i yswiriant mwy fforddiadwy.
Rhagor o wybodaeth ac adnoddau
Gellir dod o hyd i gyngor iechyd cyhoeddus pellach mewn perthynas â llifogydd ar GOV.UK.