Tanau gwyllt

Mae’r rhan fwyaf o danau gwyllt yn y DU yn cael eu hachosi gan weithgarwch dynol. Bob blwyddyn, mae tanau gwyllt yn dinistrio ardaloedd mawr o gefn gwlad a chynefinoedd bywyd gwyllt, gan achosi difrod hirdymor i’r amgylchedd. Gall tanau gwyllt ledaenu’n gyflym a bygwth cartrefi a seilwaith, yn enwedig yn ystod tywydd cynnes, sych.
Camau i’w cymryd i atal tanau gwyllt rhag digwydd
- Peidiwch â chynnau tanau yng nghefn gwlad neu fannau agored eraill, gan gynnwys parciau, rhostir ac ardaloedd coediog.
- Defnyddiwch farbeciw mewn ardaloedd dynodedig yn unig lle maent yn cael eu caniatáu.
- Peidiwch byth â gadael barbeciw poeth heb oruchwyliaeth. Gwnewch yn siŵr bod eich barbeciw wedi’i ddiffodd yn gyfan gwbl a gwnewch yn siŵr bod lludw yn oer cyn ei waredu.
- Sicrhewch fod deunyddiau ysmygu yn cael eu diffodd yn gyfan gwbl a’u gwaredu’n ofalus. Peidiwch byth â thaflu stympiau sigaréts o gerbydau.
- Ewch â’r holl sbwriel adref gyda chi, yn enwedig poteli gwydr, sy’n gallu canolbwyntio pelydrau’r haul a chynnau tân.
- Dilynwch ganllawiau ac arwyddion lleol, yn enwedig yn ystod cyfnodau o risg uwch o danau gwyllt pan fydd cyfyngiadau mynediad ar waith.
Camau i’w cymryd os gwelwch dân gwyllt
- Symudwch i leoliad diogel i ffwrdd o’r tân.
- Ffoniwch 999 ar unwaith, peidiwch â chymryd yn ganiataol bod rhywun arall eisoes wedi ei riportio.
- Defnyddiwch ap Arolwg Ordnans neu what3words i roi lleoliad cywir.
- Arhoswch mewn lleoliad diogel, y cytunwyd arno os gofynnwyd i chi wneud hynny a rhowch ragor o fanylion i’r gwasanaethau brys.
- Peidiwch â cheisio mynd i’r afael â’r tân eich hun.
- Peidiwch â theithio i ardal tân gwyllt, gan y gallai hyn arafu’r ymateb brys.
- Mae tanau gwyllt yn aml yn digwydd yn ystod cyfnodau sych, a gall y mwg a’r lludw o danau o’r fath effeithio ar gyflyrau anadlol. Os yw mwg tân gwyllt yn effeithio ar ansawdd aer yn eich ardal, cadwch ffenestri a drysau ar gau.
- Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol bob amser, gan gynnwys unrhyw gyfarwyddyd i wacáu neu aros dan do gyda ffenestri ar gau.
Rhagor o wybodaeth ac adnoddau
Mae gwybodaeth am ddiogelwch tân yn yr awyr agored hefyd ar gael yn nhaflen Diogelwch Tân yn yr Awyr Agored ymgyrch Fire Kills y llywodraeth.
I gael rhagor o wybodaeth am danau gwyllt, gan gynnwys sut i baratoi a diogelu eich cartref a’ch gardd, ewch i Wildfire Aware – NFCC. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol ledled y DU.
Mae gwasanaethau tân ac achub lleol a sefydliadau eraill gan gynnwys tirfeddianwyr hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar danau gwyllt. Dylech bob amser wirio am gyngor penodol sy’n berthnasol i’ch ardal leol. Er enghraifft, efallai y bydd cyfyngiadau penodol ar fynediad i leoedd penodol yn eich ardal leol neu ble rydych chi’n ymweld.