Skip to main content

Terfysgaeth

Yn y DU a ledled y byd mae bygythiad terfysgaeth yn parhau ac yn esblygu. Mae lefel bygythiad presennol y DU yn DDIFRIFOL. Mae hyn yn golygu bod ymosodiad terfysgol yn y DU yn debygol iawn. 

Er bod y siawns o gael eich dal mewn digwyddiad terfysgol yn parhau i fod yn isel, mae’n bwysig bod yn barod a gwybod sut i amddiffyn eich hun os oes angen. Mae hyn yn wir pan fyddwch yn y DU ond hefyd os ydych chi’n bwriadu teithio dramor. 


Camau y gallwch eu cymryd i baratoi

  • Edrychwch ar wefan Plismona Gwrthderfysgaeth am gyngor ar ddiogelwch y cyhoedd.
  • Edrychwch ar wefan ProtectUK sy’n darparu gwybodaeth am ddiogelwch gwrthderfysgaeth hanfodol i’r cyhoedd, busnesau a sefydliadau. Mae hyn yn cynnwys canllawiau penodol, a phecynnau cymorth i helpu i leihau’r risg o derfysgaeth i chi neu’ch busnes a’ch cymuned. Mae ProtectUK hefyd yn cynnal ystod o ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â Deddf Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) 2025, a elwir hefyd yn Gyfraith Martyn.
  • Cyn teithio dramor, edrychwch ar gyngor teithio  gwlad-benodol gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a chofrestrwch ar gyfer rhybuddion e-bost. Gall fod bygythiadau terfysgaeth penodol mewn rhannau eraill o’r byd ac mae’n bwysig cael gwybodaeth.

Beth i’w wneud os ydych wedi gweld neu glywed gweithgaredd amheus

Os ydych chi’n gweld unrhyw beth rydych chi’n amheus ohono, rhowch wybod amdano yn y ffordd briodol – gallai eich gwybodaeth achub bywydau. Os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn, GWEITHREDWCH.

Life Has No Rewind Button (2020)


Beth i’w wneud os ydych chi’n cael eich dal mewn ymosodiad terfysgol

  • RHEDWCH – i le diogel. Mae hwn yn opsiwn llawer gwell nag ildio neu drafod. Os nad oes unman i fynd, yna…
  • CUDDIWCH – Mae’n well cuddio na wynebu. Cofiwch dawelu’ch ffôn a diffodd yr opsiwn dirgrynu. Baricediwch eich hun os gallwch chi. Pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny…
  • DYWEDWCH – wrth yr heddlu drwy ffonio 999.

Cefnogaeth i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth

Mae cymorth ar gael i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan ymosodiad terfysgol yn y DU neu ddinasyddion Prydain sy’n dychwelyd o ymosodiad dramor. 

Mae’r Hyb Cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth, a gomisiynwyd gan y Swyddfa Gartref, yn darparu cymorth arbenigol i unrhyw un yr effeithir arnynt gan ddigwyddiad terfysgol. Wedi’i ddarparu gan Gymorth i Ddioddefwyr, gan weithio mewn partneriaeth â Peace Collective a’r Gwasanaeth Seicoleg Cenedlaethol a gynhelir gan Ymddiriedolaeth GIG Gorllewin Llundain, mae’r Hyb Cymorth yn dwyn ynghyd arbenigeddau o dan un gwasanaeth cydgysylltiedig. Mae’r Hyb Cymorth 24/7 yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol ar unwaith ac yn helpu pobl i gael mynediad i’r help cywir ar yr adeg iawn, heb orfod llywio llwybrau cymorth cymhleth ar eu pennau eu hunain.

Os hoffech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod dderbyn y gefnogaeth hon, gallwch ymweld â gwefan yr Hyb Cymorth i wneud atgyfeiriad, ffonio llinell gymorth 24/7 am ddim yr Hyb Cymorth ar 0808 168 9111 neu ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio byw.