Achosion o glefydau heintus

Mae clefydau heintus yn cael eu hachosi gan ficro-organebau pathogenig (sy’n achosi clefydau), fel bacteria, firysau, parasitiaid neu ffyngau. Gall clefydau gael eu lledaenu o berson i berson yn uniongyrchol (er enghraifft trwy gyswllt corfforol â pherson heintiedig neu drwy ddiferion yn yr awyr) neu’n anuniongyrchol (er enghraifft, gall person heintiedig gyffwrdd â handlen drws, y gallai person arall wedyn ei gyffwrdd a chael ei heintio). Mae yna hefyd glefydau milheintiol, sy’n glefydau heintus a all ledaenu o anifeiliaid i bobl, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Pwy sydd fwyaf mewn perygl?
Er y gall unrhyw un gael ei effeithio gan glefydau heintus, mae rhai pobl yn wynebu mwy o berygl o naill ai ddal haint, neu o ddatblygu salwch/canlyniadau mwy difrifol o ganlyniad i ddal haint. Gall grwpiau risg amrywio yn dibynnu ar y clefyd penodol ond gallant gynnwys:
- Pobl sydd â system imiwnedd wan (imiwnoataliedig) neu gyflyrau iechyd sylfaenol eraill.
- Oedolion hŷn.
- Babanod a phlant ifanc.
- Pobl feichiog.
Mae gwefan y GIG yn darparu gwybodaeth benodol sy’n ymwneud â grwpiau mewn perygl ar gyfer amrywiaeth o glefydau heintus.
Y camau gorau i’w cymryd i amddiffyn eich hun ac eraill rhag clefydau heintus
Golchwch eich dwylo’n rheolaidd gyda sebon a dŵr rhedeg glân (am o leiaf 20 eiliad) ac yn benodol:
- Cyn, yn ystod ac ar ôl paratoi bwyd neu drin bwyd yn barod i’w fwyta.
- Ar ôl defnyddio’r toiled neu newid cewynnau / dillad isaf budr.
- Ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid neu wastraff anifeiliaid.
- Ar ôl pesychu, tisian neu chwythu’ch trwyn.
- Os ydych chi’n sâl, neu wedi bod o gwmpas pobl sy’n sâl.
- Os nad oes gennych fynediad uniongyrchol at sebon a dŵr, gellir defnyddio hylif diheintio dwylo i lanhau dwylo nad ydynt yn amlwg yn fudr. Fodd bynnag, nid yw hylif diheintio dwylo yn cael gwared ar bob math o organebau sy’n achosi clefydau (e.e., norofirws), felly dylid defnyddio sebon a dŵr i olchi dwylo lle bynnag y bo modd.
- Gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn â hances bapur os ydych chi’n peswch neu’n tisian (a thaflu hancesi papur wedi’u defnyddio yn y bin).
- Glanhewch arwynebau y mae pobl yn eu cyffwrdd yn aml (e.e. handlenni drysau), a glanhau a diheintio’n rheolaidd yr holl ardaloedd sy’n dod i gysylltiad â bwyd, baw, neu hylifau’r corff (e.e. toiledau).
- Sicrhewch fod mannau wedi’u meddiannu’n cael eu hawyru’n dda a gadael awyr iach i mewn.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch teulu yn gyfredol o ran brechlynnau arferol. Er nad oes brechiad ar gyfer pob clefyd heintus, brechiadau yw’r ffordd fwyaf effeithiol o atal llawer o glefydau heintus. Darllenwch wybodaeth am sut mae brechlynnau yn gweithio a’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin a rhestr lawn o’r brechiadau arferol a gynigir a phryd y dylid eu rhoi, ar wefan y GIG, neu siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol.
- Os ydych chi’n sâl, ceisiwch aros gartref neu osgoi cyswllt â phobl eraill. Mae gan rai clefydau gyfnodau gwahardd penodol: darllenwch fwy am y rhain ar wefan y GIG.
- Os ydych chi’n teithio y tu allan i’r DU, ewch i wefan TravelHealthPro a darllenwch ganllawiau brechu teithio y GIG ac os oes angen, cael eich brechu cyn i chi deithio.
Rhagor o wybodaeth ac adnoddau
Mae gwefan y GIG yn cynnwys gwybodaeth a chyngor defnyddiol ar olchi dwylo’n effeithiol, gan gynnwys lluniau a fideos.
Mae’r wefan e-Bug a weithredir gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn darparu adnoddau am ddim i rieni eu defnyddio i addysgu plant am hylendid dwylo ac anadlol.