Ansawdd aer gwael a llygredd

Ansawdd aer yw’r term rydyn ni’n ei ddefnyddio i ddisgrifio pa mor llygredig yw’r aer rydyn ni’n ei anadlu. Pan fydd ansawdd aer yn wael, gall llygryddion yn yr aer fod yn beryglus i bobl.
Er bod ansawdd aer wedi gwella llawer yn ystod y degawdau diwethaf, ansawdd aer gwael yw un o’r risgiau amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yn y DU. Yn ogystal â chyfrannu at newid yn yr hinsawdd, gall amlygiad tymor byr i lefelau uchel o lygredd aer hefyd gael effeithiau negyddol ar farwolaethau ac iechyd, gan gynnwys effeithiau ar swyddogaeth yr ysgyfaint, gwaethygu asthma a chynnydd mewn derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig â chyflyrau’r galon a’r ysgyfaint. Mae amlygiad hirdymor i lygredd aer wedi bod yn gysylltiedig â marwolaethau a datblygiad cyflyrau cronig (fel cyflyrau’r galon a’r ysgyfaint) yn ogystal â chanser yr ysgyfaint, diabetes, perfformiad gwybyddol is a dementia, gan arwain at ddisgwyliad oes is.
Mae’r llywodraeth yn darparu rhagolygon llygredd aer ar gyfer hyd at 5 diwrnod ymlaen. Mae’r rhagolygon hyn yn seiliedig ar ddarlleniadau ledled y DU. Yn y Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol, disgrifir llygredd aer ar raddfa o 1-10, lle mae 1 yn cyfateb i lygredd ‘isel’ a 10 yn cyfateb i ‘lygredd uchel iawn’. Mae’r sgoriau hyn yn ymwneud â chamau gweithredu a chyngor iechyd a argymhellir i’w cymryd yn dibynnu ar y lefel uchaf o lygredd a ragwelir.
Pwy sydd fwyaf mewn perygl?
Gall ansawdd aer gwael effeithio ar unrhyw un, ond gall rhai pobl wynebu risg uwch o ddod ar draws neu gael eu heffeithio gan lygredd. Rhai o’r grwpiau a allai fod fwyaf mewn perygl yw:
- Pobl sy’n byw neu’n gweithio mewn ardaloedd o lygredd uwch.
- Pobl sydd â chyflyrau presennol ar y galon neu’r ysgyfaint (fel asthma).
- Pobl feichiog.
- Babanod a phlant.
- Oedolion hŷn.
Camau y gallwch eu cymryd yn ystod cyfnodau o lygredd aer uchel i gadw’ch hun yn ddiogel
- Defnyddiwch y gwasanaeth Gwirio Ansawdd Aer i gael diweddariadau ar lygredd aer yn eich ardal. Neu gallwch ffonio 0800 556677 am ddiweddariadau am ddim ar ansawdd aer yn eich ardal.
- Gan ddefnyddio’r lefel uchaf o lygredd a ragwelir ar gyfer y diwrnod yn eich ardal, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y camau gweithredu a’r cyngor iechyd a argymhellir ar gyfer eich amgylchiadau personol:
- Ar lefelau cymedrol o lygredd, gall y rhan fwyaf o bobl barhau â’u gweithgareddau awyr agored arferol, ond dylai unrhyw un sy’n profi symptomau geisio lleihau eu hamlygiad. Dylai oedolion a phlant â chyflyrau ar yr ysgyfaint neu’r galon geisio addasu gweithgareddau corfforol heriol yn yr awyr agored, yn enwedig os yw eu symptomau’n gwaethygu, a dilyn eu cynllun rheoli cytunedig (er enghraifft, cynllun gweithredu ar asthma) os oes ganddynt un.
- Ar lefelau uchel ac uchel iawn o lygredd, dylech geisio lleihau eich amlygiad i lygredd aer, yn enwedig os ydych chi’n profi symptomau. Dylai oedolion a phlant â chyflyrau ar yr ysgyfaint neu’r galon, a phobl hŷn addasu gweithgareddau corfforol heriol yn yr awyr agored, yn enwedig os yw’ch symptomau’n gwaethygu. Dilynwch eich cynllun rheoli cytunedig os oes gennych un – er enghraifft, cynllun gweithredu ar asthma. Gofynnwch i’ch meddyg neu nyrs am gynllun os nad oes gennych un.
- Sicrhewch fod teulu, ffrindiau a chymdogion a allai fod mewn mwy o berygl o ganlyniad i effeithiau llygredd aer yn ymwybodol o, ac yn dilyn camau i gadw eu hunain yn ddiogel.
- Os oes gennych anifeiliaid anwes neu dda byw, ymgynghorwch â’ch milfeddyg.
Rhagor o wybodaeth ac adnoddau
Darllenwch ragor o wybodaeth am effeithiau llygredd aer ar iechyd trwy gydol oes person.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn darparu canllawiau ar sut i ddefnyddio’r mynegai ansawdd aer dyddiol.
I bobl yng Nghymru, gallwch ddarllen mwy am Ansawdd Aer yng Nghymru.