Skip to main content

Ynglŷn â'r wefan hon a gwytnwch y DU

Mae GOV.UK/BeReady yn adnodd a grëwyd i ddarparu cyngor penodol i’r cyhoedd ar gamau y gallant eu cymryd i fod yn fwy parod ar gyfer argyfyngau. Fe’i datblygwyd gan Swyddfa’r Cabinet, mewn partneriaeth ag arbenigwyr o bob rhan o lywodraeth leol a chenedlaethol, y gymuned ymatebwyr, sefydliadau’r sector gwirfoddol a’r byd academaidd.

Sut mae’r DU wedi’i threfnu o ran gwytnwch

Mae sicrhau gwytnwch y DU yn ymdrech ‘cymdeithas gyfan’. Mae Llywodraeth y DU yn darparu arweinyddiaeth ac yn meithrin gallu ar lefel genedlaethol, tra hefyd yn dibynnu ar ystod eang o bobl eraill mewn cymdeithas i chwarae eu rhan, o fusnesau i gymunedau i unigolion. 

Mae’r rhan fwyaf o argyfyngau yn y DU yn cael eu trin ar lefel leol gan y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol eraill fel cwmnïau cyfleustodau a gweithredwyr trafnidiaeth. Fodd bynnag, oherwydd maint neu gymhlethdod, mae angen rhywfaint o gydlynu neu gefnogaeth gan y llywodraeth ganolog ar rai argyfyngau, gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cymryd yr awenau lle bo hynny’n briodol yn unol â chytundebau datganoli.

Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU yn defnyddio  model Adran y Llywodraeth Arweiniol i gwmpasu pob cam o gynllunio, ymateb, adfer ac asesu risg argyfwng. Mae Adrannau Llywodraeth Arweiniol yn gyfrifol am arwain gwaith i nodi risgiau difrifol a sicrhau bod y trefniadau cynllunio, ymateb ac adfer cywir ar waith.

Fforymau Gwydnwch Lleol

Er bod gan Lywodraeth y DU rôl bwysig i’w chwarae wrth reoli risgiau, mae’r lefel leol yn hanfodol i wydnwch y DU. Mae’r 38 Fforwm Gwydnwch Lleol yn Lloegr, y pedwar Fforwm Gwydnwch Lleol yng Nghymru, tair Partneriaeth Gwydnwch Ranbarthol yn yr Alban a thri Grŵp Parodrwydd Argyfwng yng Ngogledd Iwerddon yn chwarae rôl hanfodol wrth ddod ag ymatebwyr lleol, fel y gwasanaethau brys, at ei gilydd i gynllunio ar gyfer risgiau ac ymateb iddynt. Mae partneriaid gwytnwch lleol yn cynhyrchu Cofrestrau Risg Cymunedol, sy’n canolbwyntio ar y risgiau blaenoriaeth uchaf ym mhob ardal leol.

Llywodraethau datganoledig

Mae pob un o’r pedair gweinyddiaeth yn y Deyrnas Unedig yn rhannu’r un nod – amddiffyn ein dinasyddion rhag effeithiau argyfwng. Mae gwytnwch yn cwmpasu materion a gedwir yn ôl a materion datganoledig. Mae hyn yn golygu bod rhai elfennau o’r system gwytnwch yn cael eu goruchwylio gan Lywodraeth y DU ac mae’n bwysig bod Llywodraeth y DU yn gweithio mewn partneriaeth â’r gweinyddiaethau datganoledig, gan y gall materion a gedwir yn ôl effeithio ar gyfrifoldebau datganoledig. Mae elfennau sylweddol o wydnwch yn gyfrifoldeb ar y gweinyddiaethau datganoledig yn gyfan gwbl.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau

Mae rhagor o wybodaeth am asesiad y llywodraeth o’r risgiau mwyaf difrifol sy’n wynebu’r DU ar gael yn y Gofrestr Risg Genedlaethol.