Skip to main content

Chwaraewch eich rhan yn eich cymumed

Gall y wybodaeth ar y tudalennau sy’n gysylltiedig isod helpu unigolion a grwpiau cymunedol i chwarae eu rhan trwy wirfoddoli’n ddiogel ac adeiladu rhwydweithiau i gefnogi cymunedau cyn, yn ystod ac ar ôl argyfwng.

Cyngor yn ystod argyfwng

Os yw’r argyfwng yn eich ardal leol ac rydych chi eisiau cymryd rhan a helpu, gwiriwch am alwadau am gefnogaeth gan grwpiau cymunedol lleol a’ch cynghorau lleol. Mewn rhai argyfyngau, gall galwadau am gymorth ddod gan lywodraeth genedlaethol neu sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol. 

Gwiriwch orsafoedd radio lleol, darllediadau teledu lleol a ffynonellau newyddion dibynadwy fel gwefan eich gwasanaethau brys lleol neu eu cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft yr heddlu, tân ac achub, gwylwyr y glannau neu gyngor lleol, am gyngor penodol.

Peidiwch â mynd i leoliad argyfwng ar eich liwt eich hun a cheisio helpu. Mae argyfyngau yn anrhagweladwy a gallai hyn fod yn beryglus i chi a’r gwasanaethau brys ar y safle.  Os yw’r argyfwng mewn rhan arall o’r wlad, peidiwch â theithio i helpu – bydd gwasanaethau lleol o dan bwysau sylweddol.