Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar y parth campaign.gov.uk. Nid yw’n berthnasol i gynnwys ar is-barthau service.gov.uk (er enghraifft, www.registertovote.service.gov.uk) nac ar GOV.UK
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. Mae wedi’i chynllunio i gael ei defnyddio gan gymaint o bobl â phosibl. Dylai’r testun fod yn glir ac yn syml i’w ddeall. Dylech allu:
- chwyddo hyd at 300% heb broblemau
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Nid yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:
- nid yw’r prif ddewislen yn defnyddio cyferbyniad lliw clir pan fyddant yn y cyflwr ffocws
Gwasanaethau GOV.UK
Mae gan bob gwasanaeth ei dudalen hygyrchedd ei hun, gyda manylion ynghylch pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i riportio problemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall. Gallwch gyrchu’r tudalennau hyn o’r troedyn y tu mewn i’r gwasanaeth.
Adborth a gwybodaeth cysylltu
Dywedwch wrthym a oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol.
Yn eich neges, nodwch:
- gyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
- eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
- y fformat sydd ei angen arnoch – er enghraifft, testun plaen, braille, BSL, print bras neu CD sain
Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’i dudalen. Cliciwch ar ‘Gofyn am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.
Gallwch hefyd weld polisi dogfennau hygyrch y sefydliad i riportio unrhyw broblemau neu ofyn am ddogfennau mewn fformat arall.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n meddwl nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Os ydych chi’n cysylltu â ni gyda chwyn ac nad ydych yn hapus â’n hymateb, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud ei wefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r lliwiau a ddefnyddir yn y brif ddewislen, pan fyddant yn y cyflwr ffocws, yn bodloni’r isafswm cyferbyniad lliw.
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1 (Cyferbyniad (Isafswm)).
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gweithio gyda chontractwyr i sicrhau bod dewis o gyfuniadau lliw hygyrch yn y brif ddewislen ar gael yn iteriad nesaf y platfform hwn.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 25 Mai 2022. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 9 Medi 2026.