Tanau yn y cartref

Mae’r rhan fwyaf o danau yn y cartref yn dechrau yn ddamweiniol. Damweiniau coginio yw prif achos tanau yn y cartref. Mae offer trydanol diffygiol yn achosi miloedd o danau yn y cartref bob blwyddyn. Mae ysmygu a chanhwyllau hefyd yn achosi tanau. Bydd cymryd peth amser i ddeall pam mae tanau yn dechrau yn y lle cyntaf a beth allwch chi ei wneud i’w hatal, yn helpu i’ch cadw chi, pobl eraill a’ch eiddo yn ddiogel.
Pwy sydd fwyaf mewn perygl?
Gall tanau yn y cartref effeithio ar unrhyw un, ond gall rhai pobl wynebu risg uwch o gael eu heffeithio gan dân. Rhai o’r grwpiau a allai fod fwyaf mewn perygl yw:
- Oedolion hŷn.
- Y rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
- Pobl sy’n ysmygu ac yn yfed gartref.
- Pobl ag anableddau, problemau symudedd corfforol neu gyflyrau iechyd meddwl.
Y camau gorau i’w cymryd i baratoi rhag tân yn y cartref
- Cwblhewch eich gwiriad diogelwch tân yn y cartref ar-lein eich hun.
- Gosodwch larymau mwg ar bob llawr yn eich cartref a’u profi o leiaf bob mis i sicrhau eu bod yn gweithio – rydych chi 11 gwaith yn fwy tebygol o farw mewn tân os nad oes gennych unrhyw larymau mwg sy’n gweithio yn eich cartref.
- Os ydych yn yr Alban, newidiwyd y gyfraith ynghylch larymau gwres a mwg yn 2022 a dylech ymgyfarwyddo â’r safonau gofynnol.
- Cynlluniwch ac ymarferwch lwybr dianc a gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng a sut i ddianc.
- Cadwch eitemau fflamadwy (fel dillad llac, llieiniau lestri a phapur cegin) yn ddigon pell oddi wrth y popty.
- Os ydych chi’n flinedig iawn, wedi bod yn yfed alcohol neu’n cymryd meddyginiaeth a allai eich gwneud chi’n gysglyd, mae’n fwy diogel peidio â mentro coginio.
- Diffoddwch sigaréts yn iawn a’u gwaredu’n ofalus – diffoddwch nhw, yn gyfan gwbl.
- Peidiwch â gorlwytho socedi plygiau a chwilio am arwyddion o wifrau peryglus neu rhydd.
- Wrth wefru nwyddau trydanol (gan gynnwys ffonau, gliniaduron, e-feiciau ac e-sgwteri) dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, defnyddiwch wefrydd cydnaws a pheidiwch â’u gwefru ar hyd eich llwybr dianc.
- Cadwch wresogyddion cludadwy yn glir o lenni a dodrefn a pheidiwch byth â’u defnyddio i sychu dillad.
- Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau wedi’u diogelu mewn cynhwysydd priodol ac i ffwrdd o ddeunyddiau a allai fynd ar dân – fel llenni.
Rydych chi’n fwy mewn perygl o dân pan fyddwch chi’n cysgu, felly mae’n syniad da gwirio’ch cartref cyn mynd i’r gwely. Dylech:
- gau drysau tu mewn yn y nos i atal tân rhag lledaenu
- diffodd a datgysylltu offer trydanol oni bai eu bod wedi’u cynllunio i’w gadael ymlaen – fel eich rhewgell
- gwirio bod eich popty wedi’i ddiffodd
- peidio â gadael y peiriant golchi neu’r sychwr dillad ymlaen
- diffodd gwresogyddion a gosod gwarchodwyr tân
- diffodd canhwyllau a sigaréts yn iawn
- gwneud yn siŵr bod allanfeydd a llwybrau gadael yn cael eu cadw’n glir
- cadw allweddi drws a ffenestri lle gall pawb ddod o hyd iddynt
Os oes gennych blant neu’n gofalu amdanynt:
- Dysgwch blant sut i atal tân a beth i’w wneud os oes tân. Mae’n debyg y bydd angen i chi siarad am ddiogelwch tân gyda phlant fwy nag unwaith i wneud yn siŵr eu bod wedi cofio a deall yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu iddynt.
- Gwnewch yn siŵr bod plant yn gwybod sut mae eich larymau mwg yn swnio pan fyddant yn seinio – gallwch eu cynnwys yn eich profion misol.
- Gallwch ymarfer y dechneg ‘Stopio, syrthio a rholio’ gyda phlant fel eu bod yn gwybod beth i’w wneud os bydd eu dillad yn mynd ar dân: Stopio – peidiwch â rhedeg o gwmpas, byddwch chi’n gwneud y fflamau’n waeth. Syrthio – gorweddwch ar y llawr. Rholio – rholiwch o gwmpas, mae’n ei gwneud hi’n anoddach i fflamau ledaenu.
- Peidiwch â gadael plant yn y gegin ar eu pennau eu hunain wrth goginio a chadwch fatsis a handlenni sosbenni wedi’u troi i mewn a ddim o fewn cyrraedd.
- Mae’r Llywodraeth wedi datblygu taflen i rieni a gofalwyr ar ddiogelwch tân sy’n cynnwys rhai awgrymiadau defnyddiol.
- Mae gan wefan Staywise rai adnoddau a gemau i helpu i addysgu plant am ddiogelwch tân.
Camau i’w cymryd yn ystod tân yn y cartref
- Peidiwch â mynd i’r afael â thanau eich hun. Gadewch hynny i’r gweithwyr proffesiynol. Ewch allan, arhoswch allan, ffoniwch 999.
- Gweithredwch yn gyflym, a chael pawb allan cyn gynted â phosibl. Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod pawb wedi clywed y larwm mwg, yn enwedig yn y nos. Efallai na fydd rhai plant yn cael eu deffro gan larymau mwg.
- Peidiwch â gwastraffu amser yn ymchwilio i’r hyn sydd wedi digwydd neu achub pethau gwerthfawr.
- Os oes mwg, arhoswch yn isel lle mae’r aer yn gliriach.
- Cyn i chi agor drws, gwiriwch a yw’n gynnes. Os ydyw, peidiwch â’i agor – mae tân ar yr ochr arall.
- Os gallwch, caewch ddrysau y tu ôl i chi wrth i chi adael. Gall hyd yn oed drws rheolaidd atal lledaeniad tân am ddigon hir i ganiatáu i’r diffoddwyr tân ei ddiffodd cyn iddo ddinistrio eich eiddo.
- Os yw’ch cartref yn agos at eiddo eraill, dylech hefyd rybuddio’ch cymdogion.
Beth i’w wneud os yw eich llwybr dianc wedi’i rwystro
- Os na allwch fynd allan, ewch â phawb i mewn i un ystafell, yn ddelfrydol gyda ffenestr a ffôn.
- Rhowch ddillad gwely o gwmpas gwaelod y drws i rwystro’r mwg.
- Ffoniwch 999 ac yna agorwch y ffenestr a gweiddi “HELP TÂN”.
Beth i’w wneud os bydd eich dillad yn mynd ar dân
- Peidiwch â rhedeg o gwmpas, byddwch chi’n gwneud y fflamau’n waeth.
- Gorweddwch i lawr a rholio o gwmpas. Mae’n ei gwneud hi’n anoddach i’r tân ledaenu.
- Llethwch y fflamau â deunydd trwm, fel côt neu flanced.
- Cofiwch, ‘Stopio, Syrthio a Rholio’.
Rhagor o wybodaeth ac adnoddau
Mae gwefan yr ymgyrch Fire Kills yn cynnwys cyngor ar ddiogelwch tân yn y cartref.
Mae’r Llywodraeth wedi cynhyrchu cyngor ar ddiogelwch tân ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl y tu mewn a’r tu allan i’r cartref, a chyngor tymhorol.
Mae’r llywodraethau datganoledig yn darparu eu canllawiau eu hunain ar ddiogelwch tân yn y cartref. Gall pobl yn yr Alban ymweld â Gwasanaeth Tân ac Achub yr Alban. Gall pobl yng Ngogledd Iwerddon ymweld â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Iwerddon. I’r rhai yng Nghymru, gallwch ddod o hyd i’ch gwasanaeth tân ac achub lleol a chael archwiliad diogelwch cartref am ddim.