Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd

Darperir y wefan hon gan Swyddfa’r Cabinet ar y cyd â Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), sy’n rhan o Swyddfa’r Cabinet.

Swyddfa’r Cabinet yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a gyhoeddir ar y wefan hon ac unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir drwy gwcis.

Swyddfa’r Cabinet yw’r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir fel rhan o ddarparu’r platfform sylfaenol, megis cyfeiriadau IP.

Mae rheolydd data yn penderfynu sut a pham y caiff data personol ei brosesu. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch gofnod Swyddfa’r Cabinet yn y Gofrestr Gyhoeddus Diogelu Data.

Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham mae ei angen arnom

Mae GDS yn casglu rhywfaint o ddata yn awtomatig pan fyddwch yn ymweld â’r wefan hon. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP), a manylion y fersiwn o borwr gwe rydych yn ei ddefnyddio. Mae GDS yn defnyddio’r wybodaeth hon i roi mynediad i chi i’r wefan ac i fonitro’r defnydd o’r wefan er mwyn nodi bygythiadau diogelwch.

Lle rydych yn rhoi eich caniatâd, mae Swyddfa’r Cabinet yn defnyddio Google Analytics 4 i gasglu’r wybodaeth ganlynol am sut rydych yn defnyddio’r wefan hon:

  • y tudalennau rydych yn ymweld â nhw ar Byddwch yn Barod
  • faint o amser rydych yn ei dreulio ar bob tudalen Byddwch yn Barod
  • sut y daethoch i’r wefan
  • beth rydych yn clicio arno wrth ymweld â’r wefan
  • dangosydd bras o’ch lleoliad gan ddefnyddio eich cyfeiriad IP dienw.

Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol sy’n eich adnabod yn uniongyrchol ei chasglu drwy Google Analytics 4 (er enghraifft, eich enw neu’ch cyfeiriad). Ni fydd Swyddfa’r Cabinet yn eich adnabod drwy wybodaeth ddadansoddol, ac ni fydd yn cyfuno gwybodaeth ddadansoddol â setiau data eraill mewn ffordd a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.

Mae Swyddfa’r Cabinet yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr ac i wneud gwelliannau.

Gweler y dudalen Cwcis i gael rhagor o wybodaeth am y cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.

Sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Dim ond cyhyd ag y bo angen at y dibenion a nodir yn y ddogfen hon, neu am gyhyd ag y mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol inni, y byddwn yn cadw eich data personol.

Bydd GDS yn dileu data logiau mynediad ar ôl 120 diwrnod.

Bydd Swyddfa’r Cabinet yn dileu data Google Analytics 4 ar ôl 14 mis.

Diogelu preifatrwydd plant

Nid yw’r wefan hon wedi’i chynllunio ar gyfer plant 13 oed neu iau, nac wedi’i thargedu’n fwriadol atynt. Nid yw GDS na Swyddfa’r Cabinet yn casglu nac yn cadw data am unrhyw un o dan 13 oed yn fwriadol.

Lle caiff eich data ei brosesu a’i storio

Caiff data sy’n ymwneud â’r platfform sylfaenol ei brosesu a’i storio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Gall data a gesglir gan Google Analytics 4 gael ei drosglwyddo y tu allan i’r AEE i’w brosesu.

Sut rydym yn diogelu eich data a’i gadw’n ddiogel

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw eich data’n ddiogel. Rydym wedi sefydlu systemau a phrosesau i atal mynediad at eich data neu ddatgelu eich data heb awdurdod. Er enghraifft, rydym yn diogelu eich data gan ddefnyddio gwahanol lefelau o amgryptio.

Rydym hefyd yn sicrhau bod unrhyw drydydd partïon rydym yn ymdrin â nhw yn cadw’r holl ddata personol y maent yn ei brosesu ar ein rhan yn ddiogel.

Eich hawliau

Mae gennych hawl i ofyn am:

  • wybodaeth am sut caiff eich data personol ei brosesu
  • copi o’r data personol hwnnw
  • bod unrhyw beth anghywir yn eich data personol yn cael ei gywiro ar unwaith

Gallwch hefyd:

  • godi gwrthwynebiad ynghylch sut caiff eich data personol ei brosesu
  • gofyn i’ch data personol gael ei ddileu os nad oes cyfiawnhad dros ei gadw mwyach
  • gofyn i’r gwaith o brosesu eich data personol gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau

Os oes gennych unrhyw un o’r ceisiadau hyn, cysylltwch â gds-privacy-office@digital.cabinet-office.gov.uk

Cysylltu â ni neu wneud cwyn

Cysylltwch â Thîm Preifatrwydd GDS yn gds-privacy-office@digital.cabinet-office.gov.uk os ydych:

  • â chwestiwn am unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn
  • yn credu bod eich data personol wedi’i gamddefnyddio neu wedi’i drin yn amhriodol

Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Cabinet a Swyddogion Diogelu Data (DPO) Swyddfa’r Cabinet:

Swyddog Diogelu Data
DPO@cabinetoffice.gov.uk
Swyddfa’r Cabinet
70 Whitehall
Llundain
SW1A 2AS

DPO@cabinetoffice.gov.uk

Swyddog Diogelu Data, 70 Whitehall, Llundain, SW1A 2AS
dpo@cabinetoffice.gov.uk

Mae’r Swyddogion Diogelu Data yn darparu cyngor annibynnol ac yn monitro ein defnydd o wybodaeth bersonol.

Gallwch hefyd wneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol.

Comisiynydd Gwybodaeth
casework@ico.org.uk
Ffôn: 0303 123 1113
Ffôn testun: 01625 545860
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Newidiadau i’r hysbysiad hwn

Gall yr hysbysiad hwn gael ei newid o bryd i’w gilydd. Os bydd hynny’n digwydd, bydd y dyddiad “diweddarwyd ddiwethaf” ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a’ch data ar unwaith.

Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut caiff eich data personol ei brosesu, bydd GDS a Swyddfa’r Cabinet yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi.

Diweddarwyd ddiwethaf 9 Medi 2026