Ymwrthedd gwrthficrobaidd

Mae gwrthficrobyddion yn gyffuriau sy’n helpu i atal a thrin clefydau heintus mewn pobl ac anifeiliaid. Mae gwrthficrobyddion yn cynnwys gwrthfiotigau, gwrthfeirysau, gwrthffwngau a gwrthbarasitigau. Mae gwrthficrobyddion yn sail i feddyginiaeth fodern gan fod llawer o driniaethau fel llawdriniaethau, therapi canser, a thrawsblaniadau organau yn dibynnu ar wrthficrobyddion effeithiol i atal heintiau. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn digwydd pan fydd organebau sy’n achosi haint, fel bacteria, yn datblygu ymwrthedd i’r cyffuriau hyn. Mae hyn yn golygu y gall bacteria addasu a dod o hyd i ffyrdd o oroesi effeithiau gwrthfiotig.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, AMR yw un o’r prif fygythiadau iechyd cyhoeddus byd-eang.
Ychydig iawn o wrthfiotigau newydd sydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, a dyna pam mae’n bwysig ein bod yn defnyddio ein gwrthfiotigau presennol yn ddoeth a sicrhau bod y meddyginiaethau hyn sy’n achub bywydau yn parhau i fod yn effeithiol i ni, ein plant a’n hwyrion.
Gall camddefnyddio gwrthfiotigau arwain at organebau sy’n achosi haint yn datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau, sy’n golygu na fyddant bellach yn driniaeth effeithiol. Mae dwy brif ffordd y gellir camddefnyddio gwrthfiotigau. Yn gyntaf, i drin haint lle nad yw gwrthfiotigau yn effeithiol, fel annwyd neu ffliw. Yn ail, trwy beidio â chymryd gwrthfiotigau fel y cyfarwyddir gan y presgripsiynydd.
Gall gwaredu gwrthfiotigau yn ddiofal hefyd arwain at gynhyrchu organebau ag ymwrthedd yn yr amgylchedd, gan gynnwys mewn cyrsiau dŵr a’r môr.
Camau i’w cymryd i leihau’r risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd
Defnyddiwch wrthfiotigau fel y cyfarwyddir hynny gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu weithiwr milfeddygol proffesiynol
- Gofynnwch am gyngor gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn defnyddio gwrthfiotigau.
- Gofynnwch am gyngor gan filfeddyg proffesiynol cyn defnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid.
- Dilynwch gyngor gweithiwr proffesiynol ar sut i gymryd gwrthfiotigau sydd wedi’u presgripsiynu i i chi neu’ch anifail anwes (e.e. gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd y dos cywir ar yr adegau iawn, a chwblhau’r cwrs o wrthfiotigau a bresgripsiynwyd).
- Peidiwch â rhannu gwrthfiotigau gydag eraill na chymryd gwrthfiotigau nad oeddent wedi’u presgripsiynu i chi.
- Peidiwch â chadw gwrthfiotigau i’w defnyddio yn nes ymlaen.
- Peidiwch byth â thaflu gwrthfiotigau yn y bin neu eu fflysio i lawr y sinc neu’r toiled. Gall hyn halogi ein ffynonellau dŵr, gan fygwth iechyd pobl ac anifeiliaid.
- Ewch ag unrhyw wrthfiotigau na ddefnyddiwyd i’ch fferyllfa leol i’w gwaredu’n ddiogel.
- Addysgwch eich ffrindiau a’ch teulu am ymwrthedd i wrthfiotigau a sut i ddefnyddio gwrthfiotigau yn ddiogel. Cofrestrwch i ddod yn Warcheidwad Gwrthfiotigau.
- Peidiwch â chymryd gwrthfiotigau i reoli symptomau annwyd neu ffliw – os oes gennych symptomau annwyd neu ffliw, siaradwch â fferyllydd am sut i reoli’r rhain.
Cael eich brechu
- Er nad oes brechiad ar gyfer pob clefyd heintus, brechiadau yw’r ffordd fwyaf effeithiol o atal llawer o glefydau heintus difrifol a lleihau’r angen am wrthfiotigau.
- Mae gwefan y GIG yn darparu rhestr lawn o’r brechiadau arferol a gynigir a phryd i’w cael, neu siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol am ragor o wybodaeth.
- Gall brechiadau hefyd atal clefydau mewn anifeiliaid a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau mewn anifeiliaid. Siaradwch â’ch milfeddyg proffesiynol am frechu anifeiliaid o dan eich gofal.
Dilynwch arferion atal a rheoli heintiau effeithiol
- Golchwch eich dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr rhedeg glân (am o leiaf 20 eiliad):
- Cyn, yn ystod ac ar ôl paratoi bwyd
- Cyn bwyta neu drin bwyd parod i’w fwyta
- Ar ôl defnyddio’r toiled neu newid cewynnau / dillad isaf budr
- Ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid neu wastraff anifeiliaid
- Ar ôl pesychu, tisian neu chwythu’ch trwyn
- Os ydych chi’n sâl, neu wedi bod o gwmpas pobl sy’n sâl
- Os nad oes gennych fynediad uniongyrchol at sebon a dŵr, gellir defnyddio hylif diheintio dwylo i lanhau dwylo nad ydynt yn amlwg yn fudr. Fodd bynnag, nid yw hylif diheintio dwylo yn cael gwared ar bob math o organebau sy’n achosi clefydau (e.e. norofirws), felly dylid defnyddio sebon a dŵr i olchi dwylo lle bynnag y bo modd.
- Gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn â hances bapur os ydych chi’n peswch neu’n tisian (ac yn taflu hancesi papur wedi’u defnyddio yn y bin), glanhewch arwynebau y mae pobl yn eu cyffwrdd yn aml (e.e. handlenni drws), a glanhewch a diheintiwch bob ardal sy’n dod i gysylltiad â bwyd, baw neu hylifau corfforol yn rheolaidd (e.e. toiledau).
Rhagor o wybodaeth ac adnoddau
Mae’r GIG yn darparu gwybodaeth am ymwrthedd i wrthfiotigaua golchi dwylo yn effeithiol.
Mae’r wefan e-Bug a weithredir gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn darparu adnoddau am ddim i rieni eu defnyddio i addysgu plant am hylendid dwylo ac anadlol.
Darllenwch fwy am gynlluniau’r DU i weld ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cael ei gyfyngu a’i reoli erbyn 2040.
I gael rhagor o wybodaeth am ymwrthedd gwrthficrobaidd yng Nghymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru ac i gael rhagor o wybodaeth am ymwrthedd gwrthficrobaidd yn yr Alban, ewch i wefan Llywodraeth yr Alban.