Skip to main content

Argyfyngau tramor

Gall argyfyngau ddigwydd pan fyddwch chi’n teithio neu’n byw dramor. Gall y rhain gynnwys ymosodiadau terfysgol, tywydd eithafol, peryglon naturiol ac aflonyddwch sifil.

Mae’n bwysig gwybod beth i’w wneud os ydych chi’n rhan o argyfwng mewn lle nad ydych chi’n gyfarwydd ag ef. Mae’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) yn darparu cyngor i helpu pobl Prydain baratoi ar gyfer argyfyngau dramor.

Os ydych chi’n cael eich effeithio gan argyfwng dramor, gallwch ffonio’r FCDO 24/7 ar (+44) (0)207 008 5000.


Paratoi ar gyfer argyfyngau tramor

● Gwiriwch gyngor teithio. Deallwch y risgiau, gofynion mynediad, a chyfreithiau lleol yn y wlad rydych chi’n teithio iddi cyn i chi fynd drwy edrych ar y tudalennau Cyngor Teithio ar GOV.UK.

● Ceisiwch wybodaeth. Cofrestrwch i gael rhybuddion ar gyfer eich cyrchfan(au) fel eich bod yn gwybod a yw’r Cyngor Teithio yn newid cyn neu yn ystod eich taith.

● Dylech wybod pwy i’w ffonio. Nodwch y rhif(au) ffôn brys yn eich cyrchfan (sy’n cyfateb i 999 yn y DU). Gellir dod o hyd i’r rhain ar dudalen Cyngor Teithio  eich cyrchfan  o dan ‘Cael help’.

●  Trefnwch yr yswiriant teithio cywir. Gwnewch yn siŵr bod gennych yswiriant teithio priodol i chi’ch hun a’r rhai rydych chi’n teithio gyda nhw, gan gynnwys gwacáu meddygol. Gwnewch nodyn o fanylion cyswllt y cwmni yswiriant a rhif eich polisi.

● Cadwch ddogfennau pwysig yn ddiogel ac yn hygyrch. Gwnewch yn siŵr bod eich pasbort a dogfennau pwysig eraill i chi a’ch teulu, fel dogfennau adnabod neu wybodaeth feddygol yn gyfredol cyn i chi deithio. Mewn argyfwng, gall cael y dogfennau hyn wrth law eich helpu i ymateb yn gyflym. Cadwch nhw yn rhywle diogel. Pan fyddwch chi yn teithio, gofalwch am eich pethau gwerthfawr, gan gynnwys eich pasbort, a’u storio mewn lle diogel fel poced mewnol wedi’i sipio.


Rhagor o wybodaeth ac adnoddau

Mae’r FCDO wedi cyhoeddi cyngor ar sut i baratoi a beth i’w wneud os ydych chi’n cael eich effeithio gan dywydd eithafol a pheryglon naturiol dramor fel seiclonau trofannol a daeargrynfeydd. Mae yna gyngor penodol ar sut i leihau eich risg o derfysgaeth tra byddwch dramor.

Mae’r FCDO hefyd wedi cyhoeddi cyngor ar sut i ddelio ag argyfwng dramor.

Gellir dod o hyd i gyngor cyffredinol ar gadw’n ddiogel wrth deithio dramor ar  dudalen Travel Aware Llywodraeth y DU  a darperir diweddariadau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Travel Aware FCDO ar X, Facebook ac Instagram.