Gwiriwch y risgiau lle rydych chi

Mae’n bwysig darganfod a oes argyfyngau penodol a allai achosi mwy o berygl nag eraill i chi, yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw, yn gweithio neu’n teithio iddynt. Er enghraifft, gallwch:
- Wirio eich perygl llifogydd ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Gwirio rhagolygon y tywydd ar gyfer eich ardal, neu lawrlwytho ap Rhagolygon Tywydd y Swyddfa Dywydd.
- Darganfod y rhagolwg llygredd yn eich ardal.
- Gwirio’r cyngor teithio gwlad-benodol ar gyfer eich cyrchfan os ydych chi’n cynllunio taith dramor.
Yn Lloegr
Bydd eich Fforwm Gwydnwch Lleol yn cyhoeddi gwybodaeth ar-lein am y risgiau yn eich ardal leol. Mae dolenni i wefannau’r Fforymau Gwydnwch Lleol yn Lloegr i’w gweld ar GOV.UK.
Mae Fforymau Gwydnwch Lleol yn bartneriaethau sy’n cynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau cyhoeddus lleol, gan gynnwys y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, y GIG, Asiantaeth yr Amgylchedd a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â pharatoi ar gyfer argyfwng, fel darparwyr cyfleustodau. Mae Fforymau Gwydnwch Lleol yn nodi risgiau posibl ac yn cynhyrchu cynlluniau brys i atal neu leihau effaith unrhyw ddigwyddiad ar eu cymunedau lleol.
Mae pob Fforwm Gwydnwch Lleol yn cyhoeddi Cofrestr Risg Gymunedol sy’n nodi’r gwahanol risgiau sydd fwyaf tebygol o achosi tarfu yn eich rhanbarth. Mae gan GOV.UK hefyd ddolenni at Gofrestrau Risg Cymunedol ar gyfer pob Fforwm Gwydnwch Lleol.
Yng Nghymru
Mae manylion Fforymau Gwydnwch Lleol Cymru a Chofrestrau Risg Cymunedol yn cael eu cyhoeddi ar-lein.
Yn yr Alban
Yr hyn sy’n cyfateb i Fforymau Gwydnwch Lleol yn yr Alban yw Partneriaethau Gwydnwch Rhanbarthol. Gellir dod o hyd i fanylion am y Partneriaethau Gwydnwch Rhanbarthol ar wefan Ready Scotland Llywodraeth yr Alban a gellir dod o hyd i Gofrestrau Risg Cymunedol ar gyfer yr Alban ar FireScotland.
Mae gwefan Ready Scotland hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar baratoi ar gyfer a delio ag argyfyngau yn yr Alban.
Gogledd Iwerddon
Yr hyn sy’n cyfateb i Fforymau Gwydnwch Lleol yng Ngogledd Iwerddon yw Grwpiau Parodrwydd Argyfwng. Mae manylion ar gyfer y Grwpiau Parodrwydd Argyfwng ar gael gan Gangen Polisi Argyfyngau Sifil Gogledd Iwerddon.
I gael gwybodaeth am barodrwydd argyfwng yng Ngogledd Iwerddon, ewch i Be Ready for Emergencies.