Manylion Cwcis
Sut rydym yn defnyddio cwcis
Mae’r wefan hon yn gosod ffeiliau bach (a elwir yn “gwcis”) ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn pori’r wefan. Defnyddir cwcis i:
- fesur sut rydych yn defnyddio’r wefan fel y gellir ei diweddaru a’i gwella yn unol â’ch anghenion
- cofio’r hysbysiadau rydych wedi’u gweld fel na fyddwn yn eu dangos i chi eto
Dysgwch ragor am sut i reoli cwcis.
Google Analytics 4
Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics 4 i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio’r wefan hon. Rydym yn gwneud hyn i helpu i sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr ac i’n helpu i wneud gwelliannau.
Mae Google Analytics 4 yn storio gwybodaeth am:
- faint o amser rydych yn ei dreulio ar y wefan
- sut y daethoch i’r wefan
- beth rydych yn clicio arno wrth ymweld â’r wefan
Nid ydym yn casglu nac yn storio eich gwybodaeth bersonol (er enghraifft, eich enw neu’ch cyfeiriad), felly ni ellir defnyddio’r wybodaeth hon i’ch adnabod. Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddol. Mae Google Analytics 4 yn gosod y cwcis canlynol:
| Cwcis Google Analytics 4 Yn rhestru’r cwcis a ddefnyddir gan Google Analytics 4 i olrhain defnydd o’r wefan. | ||
| Enw | Diben | Yn dod i ben |
| _ga | Mae hyn yn ein helpu i gyfrif faint o bobl sy’n ymweld â’r wefan drwy olrhain a ydych wedi ymweld o’r blaen. | 2 flynedd |
| _ga_<container-id> | Mae hyn yn gweithio ar y cyd ag _ga i’n helpu i gyfrif faint o bobl sy’n ymweld â’r wefan drwy olrhain a ydych wedi ymweld o’r blaen. | 2 flynedd |
| _gid | Mae hyn yn ein helpu i gyfrif faint o bobl sy’n ymweld â’r wefan drwy olrhain a ydych wedi ymweld o’r blaen. | 24 awr |
| _gat | Defnyddir i reoli pa mor aml y gwneir ceisiadau i weld tudalennau. | 10 munud |
Polylang
| Cwcis Polylang Yn rhestru’r cwcis a ddefnyddir gan Polylang i gofio dewisiadau iaith. | ||
| Enw | Diben | Yn dod i ben |
| pll_language | Yn cofio’r gosodiadau iaith rydych yn eu dewis. | 1 flwyddyn |
YouTube
Gall y wefan hon hefyd ddefnyddio YouTube-nocookie. Mae hyn yn ein galluogi i fewnosod fideo YouTube yn y wefan heb fod angen gosod cwcis ychwanegol ar eich dyfais.
Os byddwch yn dewis mynd i YouTube o’r wefan hon, nid yw Swyddfa’r Cabinet yn gyfrifol am unrhyw gwcis a osodir gan YouTube. Dylech ddewis eich gosodiadau cwcis ar blatfform YouTube.