Seiber

Mae seiberddiogelwch yn bwysig oherwydd bod ffonau clyfar, cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd bellach yn rhan mor sylfaenol o fywyd modern fel ei bod yn anodd dychmygu sut y byddem yn gweithredu hebddyn nhw. O fancio a siopa ar-lein, i e-bost a chyfryngau cymdeithasol, mae’n bwysicach nag erioed cymryd camau a all helpu i atal seiberdroseddwyr rhag cael gafael ar ein cyfrifon, data a dyfeisiau.
Swyddogaeth graidd seiberddiogelwch yw diogelu’r dyfeisiau rydyn ni i gyd yn eu defnyddio (ffonau clyfar, gliniaduron, tabledi a chyfrifiaduron), a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cyrchu – ar-lein ac yn y gwaith – rhag lladrad neu ddifrod. Mae hefyd yn ymwneud ag atal mynediad anawdurdodedig i’r symiau enfawr o wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei storio ar y dyfeisiau hyn, ac ar-lein.
Camau y gallwch eu cymryd i gadw’n ddiogel ar-lein
- Diogelwch eich cyfrifon ar-lein, gan ddechrau gyda’ch cyfrif e-bost:
- Defnyddiwch allwedd fynediad lle mae ar gael – dyma’r dewis arall mwy diogel yn lle cyfrineiriau, ac mae hefyd yn haws i’w ddefnyddio.
- Pan fyddwch chi’n defnyddio cyfrineiriau, gwnewch yn siŵr eu bod yn gryf ac yn unigryw, a gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn sefydlu dilysu 2-cam (2SV).
- Mae ap rheoli cyfrinair yn creu, cadw, storio a rheoli allweddi mynediad i chi. Mae hefyd yn eich helpu i gynhyrchu cyfrineiriau unigryw, eu llenwi’n awtomatig ar wefannau, eu cysoni ar draws dyfeisiau, a gall rybuddio am dorri cyfrinair neu ddatgeliad. Gallwch hefyd reoli cyfrineiriau yn eich porwr.
- Diogelwch eich dyfeisiau:
- Gosodwch y feddalwedd a’r diweddariadau diweddaraf ar eich holl ddyfeisiau, gan gynnwys dyfeisiau clyfar.
- Galluogwch ddiweddariadau awtomatig fel nad ydych chi’n colli diweddariadau diogelwch pwysig.
- Ystyriwch amnewid unrhyw ddyfais nad yw’n cael ei chefnogi gan y gwneuthurwr mwyach.
- Diogelwch eich data:
- Sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae’ch data yn byw – gallai fod ar y ddyfais ei hun neu yn y cwmwl.
- Gwnewch gopi wrth gefn o ddata pwysig (gan gynnwys lluniau a ffeiliau).
- Gwarchodwch eich copi wrth gefn yn yr un modd ag y byddwch chi’n gwarchod eich cyfrifon ar-lein.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall sut i adfer eich data o’r copi wrth gefn os oes angen, ac ymarferwch wneud hynny o bryd i’w gilydd.
Rhagor o wybodaeth ac adnoddau
Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn darparu cyngor seiberddiogelwch i’ch diogelu chi a’ch teulu a’r dechnoleg rydych chi’n dibynnu arni.
Os ydych chi’n meddwl y gallech fod wedi dioddef seiberdrosedd, ewch i Report Fraud neu cysylltwch â nhw ar 0300 123 2040.
I gael cymorth pellach, mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor a chefnogaeth ar dwyll ar-lein. Gallwch ffonio eu llinell gymorth i ddefnyddwyr ar 0808 223 1133 neu sgwrsio â rhywun ar-lein.