Skip to main content

Rhybuddion

Menyw ifanc yn edrych ar ei ffôn symudol tra'n eistedd ar ei soffa yn ei chartref

Mae amrywiaeth o rybuddion ar gael, rhai ohonynt yn awtomatig a rhai y gallwch gofrestru ar eu cyfer. Gall y rhain eich rhybuddio am risgiau posibl yn eich ardal leol, gan roi mwy o amser i chi baratoi neu ymateb.

Rhybuddion Brys Llywodraeth y DU

Mae Emergency Alerts yn wasanaeth Llywodraeth y DU y gellir ei ddefnyddio i’ch rhybuddio os oes perygl i fywyd. Mae enghreifftiau o sefyllfaoedd a allai arwain at rybudd yn cynnwys llifogydd difrifol, tanau a thywydd eithafol.

Gall Llywodraeth y DU, Llywodraethau Datganoledig a chyrff cyhoeddus eraill fel yr heddlu neu’ch cyngor lleol anfon rhybuddion. Nid oes angen i’r sefydliadau hyn wybod eich rhif ffôn na’ch lleoliad i anfon rhybudd atoch. Mae rhybuddion yn cael eu hanfon i’ch ffôn symudol neu dabled yn seiliedig ar eich lleoliad presennol. Nid oes angen i chi droi gwasanaethau lleoliad ymlaen i dderbyn rhybuddion. 

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cael rhybudd

Gall eich ffôn symudol neu dabled:

  • wneud sŵn uchel tebyg i seiren, hyd yn oed os yw wedi’i dawelu
  • dirgrynu
  • darllen y rhybudd

Beth sydd angen i chi ei wneud

Pan fyddwch chi’n cael rhybudd, stopiwch yr hyn rydych chi’n ei wneud a dilynwch gyfarwyddiadau’r rhybudd. Gall fod yn ddefnyddiol tynnu sgrinlun o’r rhybudd fel y gallwch ddod o hyd iddo’n hawdd eto. Os ydych chi’n gyrru, dewch o hyd i rywle diogel a chyfreithlon i stopio cyn darllen y neges. Os nad oes unrhyw le diogel a chyfreithlon i stopio a does neb yn y cerbyd i’w ddarllen i chi, gallwch wrando ar newyddion ar y radio byw i gael gwybod am yr argyfwng.  

Systemau rhybuddio eraill y gallwch gofrestru ar eu cyfer

Cofrestrwch i gael rhybuddion llifogydd os yw’ch cartref neu fusnes mewn perygl o lifogydd. Bydd angen i chi ddarparu’r cyfeiriad rydych chi eisiau rhybuddion llifogydd ar ei gyfer, cyfeiriad e-bost, a ffordd i gysylltu â chi ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. 

Gallwch danysgrifio i System Rybuddio Tywydd-Iechyd UKHSA, sy’n darparu rhybuddion cynnar pan fydd tymereddau niweidiol (gwres neu oerfel) yn debygol o effeithio ar iechyd a lles y boblogaeth yn Lloegr.

Gallwch danysgrifio i rybuddion e-bost y Swyddfa Dywydd.

Gallwch gofrestru i dderbyn rhagolygon a rhybuddion ansawdd aer gan wasanaeth gwirio ansawdd aer y llywodraeth.

Mae rhai Fforymau Gwydnwch Lleol yn cynnig opsiwn cofrestru ar gyfer rhybuddion i dderbyn newyddion a gwybodaeth am argyfyngau yn eich ardal leol. Gallwchddod o hyd i fanylion eich Fforwm Gwydnwch Lleol.