Skip to main content

Tarfu ar drafnidiaeth ac oedis

Wrth deithio mewn car, beic, ar droed, neu ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae’n bwysig ystyried sut y gallai ffactorau allanol fel tywydd eithafol effeithio arnoch chi. Er mwyn helpu i gadw’ch hun yn ddiogel a lleihau effaith oedi, cynlluniwch ymlaen llaw, gwiriwch am darfu cyn teithio, a cheisiwch y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd.

Os bydd tarfu yn ddisgwyliedig, ystyriwch a ellir oedi eich taith nes bod yr amodau yn gwella. Os yw teithio yn hanfodol, caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith a gwiriwch y canllawiau a’r diweddariadau ar gyfer eich dull trafnidiaeth dewisol cyn cychwyn.


Teithio yn ystod tarfu

  • Os oes angen teithio, caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith. Dywedwch wrth rywun beth yw eich cyrchfan a’ch amser cyrraedd disgwyliedig.
  • Paciwch eitemau hanfodol, megis:
    • Meddyginiaeth hanfodol
    • Ffôn wedi’i wefru’n llawn a gwefrydd 
    • Banc pŵer cludadwy
    • Dŵr a bwyd
    • Dillad cynnes / gwrth-ddŵr
  • Os bydd tarfu ar eich eich taith, ceisiwch y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddiweddariadau teithio a thywydd swyddogol a rhowch wybod i eraill am newidiadau i’ch cynlluniau teithio.
  • Storiwch un neu fwy o rifau cyswllt brys ar eich ffôn symudol neu gadewch gopi ysgrifenedig yn eich waled neu’ch pwrs – defnyddiwch y nodwedd ICE neu Medical ID ar eich ffôn os oes ganddo un.

Mae gan y Swyddfa Dywydd rywfaint  o gyngor teithio tymhorol ar ei gwefan yn ogystal â chysylltiadau tywydd teithio defnyddiol y gellir eu defnyddio i wirio amodau ffyrdd, darganfod amodau traffig, neu weld diweddariadau ac amserlenni gwasanaeth trafnidiaeth.

Cyngor ar drafnidiaeth gyhoeddus

  • Gwiriwch gyda’ch gweithredwr trafnidiaeth cyn i chi deithio am ddiweddariadau ac ystyriwch lwybrau neu amseroedd amgen os oes angen.
  • Os ydych chi mewn ardal yr effeithir arni gan darfu, dilynwch gyfarwyddiadau gan staff trafnidiaeth a’r gwasanaethau brys.
  • Os bydd oedi ar eich taith neu os ydych yn sownd, fel arfer mae’n fwy diogel aros lle rydych chi ac aros am gymorth.
  • Cadwch yn wyliadwrus a rhowch wybod am unrhyw beth nad yw’n teimlo’n iawn i aelod o staff neu Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Wedi Sylwi. Wedi Sôn. Wedi Setlo.

Cyngor gyrru

  • Cyn i chi deithio, cynlluniwch eich llwybr, gwiriwch ragolygon y tywydd a chadwch lygad ar ddiweddariadau traffig neu oedi.
  • Cadwch becyn brys yn eich cerbyd rhag ofn y bydd oedi neu rag ofn y byddwch yn sownd. Gall hyn gynnwys tortsh, gwefryddion ffôn yn y car neu fanc pŵer, dillad cynnes a blancedi, dillad gwelededd uchel, cebl gwefru (‘jump leads’), bwyd a diod, pecyn cymorth cyntaf, a rhaw.
  • Gwiriwch eich cerbyd cyn cychwyn, gan gynnwys eich teiars, olew, hylif golchi ffenest flaen a lefel tanwydd.
  • Mewn tywydd poeth, cymerwch ddŵr ychwanegol, gwiriwch fod eich cerbyd wedi’i awyru’n dda, ac osgoi gadael plant neu anifeiliaid anwes mewn ceir wedi’u parcio. Cynlluniwch arosfannau ar deithiau hirach er mwyn yfed digon ac osgoi gorboethi.
  • Peidiwch byth â gyrru trwy ddŵr llifogydd – gall fod yn ddyfnach neu’n llifo’n gyflymach nag y mae’n edrych.
  • Os bydd eich cerbyd yn torri i lawr, symudwch i le diogel os yn bosibl a dilynwch ganllawiau Priffyrdd Cenedlaethol ar gadw’n ddiogel a chael help.
  • Mae Priffyrdd Cenedlaethol yn darparu cyngor pellach ar deithio mewn tywydd garw.

Cyngor ar gerdded, beicio neu olwynio

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn weladwy i ddefnyddwyr eraill y ffordd drwy wisgo dillad llachar sy’n adlewyrchu golau – dydd neu nos.
  • Os nad ydych chi’n siŵr a yw’n ddigon tywyll ar gyfer goleuadau, mae’n well bob amser eu rhoi ymlaen.
  • Cariwch ddŵr gyda chi, yn enwedig mewn tywydd poeth, a chymerwch seibiannau os ydych chi’n dechrau teimlo’n sâl neu’n gorboethi.
  • Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi cyngor ar feicio yn y gaeaf.