Gwybodaeth i gymunedau a grwpiau cymunedol

Cyngor yn ystod argyfwng
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi, eich teulu a’ch cymdogion yn ddiogel ac yn iach. Yna ystyriwch helpu’ch cymuned.
Os ydych chi’n grŵp cymunedol sy’n profi neu’n ymateb i argyfwng, cysylltwch â’ch cyngor lleol. Efallai y byddant yn gallu darparu cyngor a chymorth.
Gwiriwch orsafoedd radio lleol, darllediadau teledu lleol, a ffynonellau newyddion dibynadwy (fel gwefan eich gwasanaethau brys lleol neu eu cyfryngau cymdeithasol) am gyngor penodol gan bartneriaid brys lleol.
Ynglŷn â’r dudalen hon
Gall y wybodaeth ar y dudalen hon helpu grwpiau cymunedol i feddwl am sut y gallant adeiladu rhwydweithiau a chefnogi eu cymunedau cyn, yn ystod ac ar ôl argyfwng.
Mae gweithredu cymunedol yn ymwneud â defnyddio gwybodaeth, sgiliau ac adnoddau lleol i weithio gyda’ch gilydd. Mae’n ymwneud â meddwl am yr hyn sy’n bodoli eisoes o’ch cwmpas, beth rydych chi eisoes yn ei wneud, a phwy rydych chi eisoes yn siarad â nhw neu’n gweithio gyda nhw.
Gall gweithredu cymunedol helpu’ch cymuned i gynllunio ar gyfer, ymateb ac adfer o argyfyngau i leihau’r effaith a sicrhau bod pobl yn gwybod beth i’w wneud i amddiffyn eu hunain ac eraill – does dim ots os yw’n fore coffi, grŵp ieuenctid neu grŵp hinsawdd – mae adeiladu cysylltiadau lleol cryf yn helpu cymunedau i baratoi ar gyfer pan fydd y gwaethaf yn digwydd.
Pam mae’n bwysig cyfranogi a bod yn barod?
Mae argyfyngau blaenorol wedi dangos bod y rhai sydd wedi treulio amser yn dod i adnabod eu cymuned yn gallu ymateb yn well mewn argyfwng ac yn gwella’n gyflymach.
Mae cymunedau yn aml yn deall yr heriau sy’n wynebu pobl yn eu hardal. Trwy weithio gyda’i gilydd, gall cymunedau gefnogi eu hunain i baratoi ar gyfer ac ymateb i argyfyngau.
Mewn argyfwng, bydd eich gwasanaethau brys lleol bob amser yn blaenoriaethu’r rhai sydd â’r angen mwyaf, yn enwedig lle mae bywyd mewn perygl.
Trwy baratoi a bod yn barod i weithredu, mae cymunedau’n gallu defnyddio eu hadnoddau a’u rhwydweithiau i helpu a chefnogi ei gilydd.
Gwybodaeth ar gyfer grwpiau cymunedol
Bydd y ffordd y mae grwpiau cymunedol yn cefnogi eu cymunedau yn edrych yn wahanol o ardal i ardal. Nid yw’n unffurf.
Sut mae cymuned sy’n paratoi ar gyfer argyfyngau yn edrych?
Mae cymunedau yn y DU sydd eisoes yn ymwneud â pharatoi ar gyfer argyfyngau yn meddu ar rai neu’r holl nodweddion canlynol:
- Ymwybyddiaeth o risgiau a allai effeithio arnynt (yn genedlaethol ac yn lleol) a pha mor agored ydynt i’r risgiau hynny, gan gynnwys dealltwriaeth o bwy yn eu cymuned allai fod angen cymorth fwyaf.
- Gweithio mewn partneriaeth i ategu gwaith y gwasanaethau brys lleol a sefydliadau eraill (megis grwpiau gwirfoddol, cymunedol a ffydd lleol eraill) cyn, yn ystod ac ar ôl argyfwng.
- Nodi a defnyddio sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau presennol i baratoi ar gyfer a mynd i’r afael ag effeithiau argyfyngau.
- Cydnabod bod meithrin a gwella cysylltiadau ar draws y gymuned i wella parodrwydd yr ardal ar gyfer argyfwng yn well yn broses barhaus.
Beth all eich grŵp cymunedol ei wneud i helpu
Peidiwch â rhoi eich hun neu eraill mewn perygl
- Ni ddylai unigolion a grwpiau cymunedol byth wneud unrhyw beth sy’n rhoi eu hunain neu eraill mewn perygl.
Ceisiwch wybodaeth
- Mae’r wefan rydych chi arni nawr yn darparu gwybodaeth am beryglon penodol a chamau y gallwch eu cymryd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion gan wahanol sefydliadau, fel y Swyddfa Dywydd.
- Mae eich Cofrestr Risg Gymunedol leol yn nodi rhai o’r risgiau (peryglon) a allai effeithio ar eich ardal leol, a sut i baratoi ar gyfer y rhain.
Cymerwch ran mewn paratoi ar gyfer argyfwng
- Efallai y bydd eich grŵp eisoes yn canolbwyntio ar sut y gall gefnogi’ch cymuned i baratoi ac ymateb i argyfwng. Os nad ydyw, ystyriwch sut y gallwch gynnwys paratoi ar gyfer argyfyngau yn eich gweithgareddau presennol.
- Os oes angen help arnoch i ddechrau, gofynnwch am gyngor gan grwpiau cymunedol eraill yn eich ardal a allai fod yn gwneud hyn eisoes.
- Efallai y bydd eich cyngor lleol neu Sefydliad Seilwaith Lleol yn gallu darparu cyngor a chysylltiadau. Prif bwrpas Sefydliad Seilwaith Lleol yw cefnogi grwpiau eraill yn eu sector gwirfoddol a chymunedol lleol. Maent yn sefydliadau yn y sector gwirfoddol a gallent eich helpu i wneud cysylltiadau.
Siaradwch â grwpiau cymunedol eraill
- Siaradwch â grwpiau cymunedol eraill sydd eisoes yn gweithio i gefnogi a gwella bywyd yn eich cymuned e.e. wardeiniaid llifogydd a grwpiau ymateb brys eraill, grwpiau ieuenctid, cymdeithasau preswylwyr, grwpiau ffydd a diwylliannol.
- Meddyliwch am sut y gallech weithio gyda’ch gilydd a defnyddio eich sgiliau, adnoddau ac arbenigedd cyfunol i gefnogi’ch cymuned i baratoi ac ymateb i argyfyngau.
Siaradwch â’ch cymuned
- Cynhaliwch sesiynau allgymorth am y gwaith rydych chi’n ei wneud. Trwy ddefnyddio dull cyfranogol, gallwch ystyried safbwyntiau’r gymuned ehangach a rhannu gwybodaeth am eich gweithgareddau a sut y gallant gymryd rhan.
- Gweithiwch gyda phartneriaid cymunedol a lleisiau dibynadwy i gyrraedd gwahanol rannau o’ch cymuned.
Gweithiwch mewn partneriaeth â phartneriaid brys lleol
- Siaradwch â’ch gwasanaethau brys lleol i ddeall sut y gallant gefnogi eich cynlluniau argyfwng dan arweiniad y gymuned – a sut y gallwch gefnogi gwaith parodrwydd ac ymateb i argyfwng swyddogol.
- Cysylltwch â’ch cyngor lleol neu’ch Fforwm Gwydnwch Lleol i ddarganfod mwy am baratoi’r gymuned ar gyfer argyfwng.
Ewch ati i adnabod eich arweinwyr cymunedol
- Byddwch yn gyfarwydd â’r bobl hynny sy’n arweinwyr a lleisiau dibynadwy ar draws gwahanol grwpiau yn eich cymunedau. Gallwch ddod o hyd i’ch cynghorydd lleol ar GOV.UK. Dylech ystyried ymgysylltu ag arweinwyr cymunedol ehangach, gan gynnwys cynrychiolwyr gwirfoddol a chymunedol, ffydd a busnesau lleol.
- Siaradwch â nhw am eich gwaith a sut y gallwch gefnogi eich gilydd i adeiladu rhwydweithiau ac ymddiriedaeth.
Gwnewch gynllun
- Pan fydd argyfwng yn digwydd, mae’n well cael cynllun ar waith fel eich bod chi’n gwybod pwy i gysylltu â nhw a sut y bydd eich grŵp yn cefnogi eich cymuned a’r ymateb brys.
Adnoddau
- Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynghylch a fydd angen yswiriant arnoch i gynnwys gweithgareddau’r grŵp trwy gysylltu â’ch awdurdod lleol. Mae canllawiau ymarferol am wirfoddoli ac yswiriant hefyd ar gael gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Mudiadau Gwirfoddol.
- Mae’r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Mudiadau Gwirfoddol hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am ddiogelu.
- Gall Fframwaith Datblygu Gwydnwch Cymunedol Llywodraeth y DU gefnogi grwpiau cymunedol a grwpiau ymateb cymunedol i feddwl am wahanol weithgareddau i gefnogi eu cymunedau i baratoi ar gyfer argyfyngau, ymateb iddynt ac adfer ar ôl iddynt ddigwydd.
Os ydych chi yng Nghymru
- Ewch i Gymorth Trydydd Sector Cymru i gysylltu â Chynghorau Gwirfoddol Cymunedol ynghylch cyfleoedd gwirfoddoli.
- Mae gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wybodaeth a chyngor am wirfoddoli yng Nghymru.
Os ydych chi yn yr Alban
- Mae gwefan Ready Scotland Llywodraeth yr Alban yn cynnwys gwybodaeth am gefnogi cymunedau i baratoi ar gyfer argyfyngau, sy’n cynnwys adnoddau, templedi a hyfforddiant ar-lein.
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon
- Mae gan dudalen Be ready as a community gan NI Direct wybodaeth ac adnoddau ar sut y gall cymunedau gynllunio ar gyfer argyfyngau.