Cyfrannu yn ystod argyfwng

Mae haelioni cyhoedd y DU yn gryfder yn ein cymdeithas. Mae pobl yn aml eisiau helpu eraill yn ystod argyfwng, hyd yn oed pan nad yw’r argyfwng hwnnw’n digwydd yn eu cymuned neu wlad.
Gwybodaeth i unigolion
Gall rhoi arian helpu i roi urddas o ran dewis i bobl sy’n cael eu heffeithio gan argyfyngau, trwy benderfynu beth sydd ei angen arnynt i gefnogi eu hunain. Gall hefyd helpu i roi arian yn ôl i’r economi leol ac ailadeiladu cymunedau.
Lle mae pobl yn gallu, rydym yn annog rhoi arian trwy sefydliadau ag enw da i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan argyfyngau.
Dylech gadw llygaid am apeliadau gan y gymuned am yr hyn sydd ei angen i helpu, yn hytrach na dod i ganolfannau cymunedol neu fannau ymateb brys gyda rhoddion.
Gall y wybodaeth isod eich helpu i ystyried ffyrdd o roi arian mewn argyfwng.
Argyfyngau lleol a rhanbarthol
- Os yw argyfwng wedi digwydd yn eich ardal chi, dylech wirio gyda’ch cyngor lleol neu sefydliad elusennol lleol dibynadwy i weld a ydyn nhw’n cynnal apêl y gallwch roi arian iddi.
- I’ch helpu i roi arian yn ddiogel, gallwch chwilio’r gofrestr elusennau i wirio enw a rhif cofrestru’r elusen. Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o elusennau sydd ag incwm o £5,000 neu fwy fod wedi’u cofrestru, sy’n golygu eu bod yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiwn Elusennau.
- Mae UK Community Foundations yn gweithredu ledled y DU ac yn defnyddio eu cysylltiadau helaeth ag elusennau lleol, mudiadau gwirfoddol, cynghorau lleol a rhoddwyr i weithredu’n gyflym pan fydd argyfwng yn digwydd. Dewch o hyd i’ch Sefydliad Cymunedol lleol os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn rhoi cymunedol.
Argyfyngau cenedlaethol
- Defnyddiwch y wybodaeth uchod i gefnogi eich cymuned. Gall argyfwng cenedlaethol neu aml-ranbarthol effeithio arnoch os yw’n digwydd yn eich ardal, neu oherwydd ei fod yn debyg i rywbeth rydych chi wedi’i brofi o’r blaen neu y mae gennych gysylltiad ag ef.
- Os bydd argyfwng cenedlaethol, gallwch wirio i weld a yw’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol (NET) wedi sefydlu apêl y gallwch chi roi arian iddi.
- Mae NET yn elusen annibynnol sy’n cynnig un lle dibynadwy i bobl roi, gan weithio gydag elusennau a grwpiau eraill i rannu arian yn gyflym ac yn deg.
Argyfyngau rhyngwladol
- Pan fydd argyfwng yn digwydd dramor, gallai’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) sefydlu apêl, fel y gall eich cefnogaeth gyrraedd y rhai sydd ei angen yn gyflym.
- Mae’n well rhoi arian yn rhyngwladol trwy sefydliadau ag enw da, fel DEC, gan fod rhoddion ffisegol tramor yn destun ffioedd tollau, storio a thrafnidiaeth, a all fod yn ddrud.
Gwybodaeth i fusnesau
Y ffordd orau o helpu yw trwy roi arian trwy elusennau dibynadwy a sefydliadau gwirfoddol cydnabyddedig.
Fodd bynnag, gall busnesau hefyd gefnogi cymunedau pan fydd argyfwng yn digwydd trwy ddarparu:
- Offer neu dechnolegau arbenigol.
- Gwasanaethau neu sgiliau arbenigol neu dechnegol.
- Nwyddau ac angenrheidiau arbenigol neu bob dydd.
- Cymorth logisteg neu gyfleusterau warws.
- Adnoddau eraill y gallai fod eu hangen.
Os ydych chi’n fusnes sy’n cynnig cymorth, gallech gysylltu â’r cyngor lleol neu’r Fforwm Gwydnwch Lleol (neu’r sefydliad datganoledig cyfatebol) lle mae’r argyfwng yn digwydd, i weld a ydynt yn gallu ei dderbyn. Cofiwch y bydd gwasanaethau lleol o dan bwysau sylweddol yn ystod argyfwng.